Dathlu dychwelyd i’r GwyddonLe a chanrif o’r Urdd
Unwaith eto eleni Prifysgol Abertawe oedd yn noddi'r GwyddonLe, pafiliwn gwyddoniaeth Eisteddfod yr Urdd wrth i'r genedl ddychwelyd i fwynhau bwrlwm yr Eisteddfod ar faes traddodiadol.
Croesawodd yr Eisteddfod y nifer uchaf erioed o ymwelwyr i'r maes yn Sir Ddinbych a bu'r GwyddonLe ei hun yn brysur tu hwnt drwy gydol yr wythnos ac roedd hi'n bleser gweld wynebau cyfarwydd a newydd o bob oedran yn mwynhau'r gweithgareddau amrywiol oedd ar gael iddynt. Thema'r GwyddonLe eleni oedd Iechyd ac i gyd-fynd gyda dathliadau canmlwyddiant yr Urdd, daeth staff Academi Hywel Teifi a'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ynghyd, i greu arddangosfa oedd yn dathlu datblygiadau ym maes iechyd a meddygaeth ers sefydlu'r Urdd ym 1922.
Ar hyd taith yr arddangosfa liwgar a diddorol, roedd cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu mwy am feddygaeth a'u cyrff trwy drin offer gwyddonol a chwarae gêmau amrywiol. Roedd gweithgareddau rhyngweithiol ac arbrofion gwyddonol ar gael hefyd megis cyfle i godio robotiaid gyda Technocamps, chwarae gêm adnabod yr esgyrn gyda thîm Realiti Rhithwir y Brifysgol a llawer mwy yng nghwmni ein partneriaid allanol Sbarduno, Wessex Archaeology, RAS200 a Llaeth y Llan.
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad arbennig iawn yn y GwyddonLe ar y dydd Gwener a'r cyntaf ohonynt yn rhan o ddathliadau 60 mlynedd Coleg Brenhinol y Patholegwyr. Cynhaliodd Dr Emyr Benbow o Brifysgol Manceinion, awtopsi byw gan ein harwain drwy’r broses o gynnal archwiliad ar gorff a pham bod angen gwneud hynny.
Yna, fe gynhaliwyd cystadleuaeth ddadl gyhoeddus Her Sefydliad Morgan, dan nawdd Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan gydag ysgolion Bro Pedr a Bro Teifi yn mynd ben ben. Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Llŷr Gruffydd AS, a’r arbenigwr ar feicrobioleg, Yr Athro Angharad Puw Davies gyda’r cystadleuwyr yn cyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn y cwestiwn ‘Dylai fod yn orfodol i bobl gael eu brechu yn erbyn heintiau difrifol er lles cymdeithas’. Gallwch ddarllen mwy am hanes y gystadleuaeth yma. [dolen i’r stori Her wedyn]
Uchafbwynt arall i’r Brifysgol yn ystod yr wythnos oedd gweld aelodau o Aelwyd yr Elyrch, Undeb y Myfyrwyr, yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Grŵp Llefaru dan 25 oed. Er iddyn nhw gael cam ar y llwyfan, rhaid llongyfarch y myfyrwyr am eu brwdfrydedd dros gynrychioli’r Brifysgol yn yr Eisteddfod ac am eu hymdrech yn teithio i Ddinbych i gystadlu.
Bu’r ymateb – gan bobl o bob oedran a chefndir – i’r GwyddonLe yn arbennig unwaith eto eleni a chroesawyd sawl gwleidydd i weld ein gwaith, gan gynnwys Y Farwnes Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd; David TC Davies AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg. Roedd hi’n hyfryd hefyd fedru croesawu Dirprwy Ganghellor y Brifysgol, Syr Roderick Evans, a Phennaeth Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yr Athro Elwen Evans CB, i’r GwyddonLe a diolch iddynt am eu cefnogaeth.
Meddai Sian Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, "Rydym yn hynod ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am greu GwyddonLe byrlymus oedd yn llawn gweithgareddau difyr i’r 118,000 o bobl wnaeth ymweld â maes Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych eleni. Mae’n arddangosfa arbennig, sy’n cynnig cyfleodd i deuluoedd yn blant ac oedolion gael mwynhau a dysgu am y gwyddorau mewn awyrgylch hwyliog, ac yn sicr yn atyniad arbennig ar y maes. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio a datblygu ein partneriaeth gyda’r Brifysgol i’r dyfodol."