Cystadleuaeth ddadl gyhoeddus Gwyddonle 2025
Eleni, wrth i Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr gael ei chynnal ym Mharc Margam, cynhaliwyd y gystadleuaeth siarad cyhoeddus Her Sefydliad Morgan, ar lwyfan y GwyddonLe, am y seithfed flwyddyn yn olynol. Y GwyddonLe yw pafiliwn gwyddoniaeth Eisteddfod yr Urdd a Phrifysgol Abertawe sy'n cydlynu a threfnu'r holl weithgareddau yno drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.
Cystadleuaeth sy'n agored i ddisgyblion ysgol blwyddyn 10 i 13 yw Her Sefydliad Morgan a noddir gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan, canolfan ym Mhrifysgol Abertawe sy’n canolbwyntio ar ymchwil trawsnewidiol rhyngddisgyblaethol. Gosodwyd testun eleni gan Dr Jeff Davies, athro cysylltiol niwrobioleg foleciwlaidd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Jeff hefyd oedd yn beirniadu'r gystadleuaeth a'i gyd-feirniad ar y diwrnod oedd Sioned Williams, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru.
Testun trafod eleni oedd, "Gallai deallusrwydd artiffisial chwarae rôl hanfodol yn nyfodol gofal iechyd yng Nghymru", a dwy ysgol sydd yn hen gyfarwydd â'r Her ddaeth i gystadlu eto eleni, sef Ysgol Gyfun Bryn Tawe ac Ysgol Gwent Is Coed. Maïwen Watson, disgybl o flwyddyn 11 yn Ysgol Bryn Tawe, agorodd y gystadleuaeth gan gyflwyno ei dadleuon hi o blaid y pwnc, gyda Sebastian Lyne o flwyddyn 10 yn Ysgol Gwent is Coed, yn anghytuno ac yn siarad yn erbyn y gosodiad. Yna, Gethin Clarke o flwyddyn 11, Ysgol Gwent Is Coed ddaeth benben â Hari James o flwyddyn 12 Bryn Tawe gyda Gethin yn trafod dadleuon o blaid a Hari yn erbyn.
Siaradodd y pedwar yn aeddfed ac yn angerddol am y pwnc gan gyflwyno'u dadleuon mewn modd deallus a chlir. Roedd safon y gystadleuaeth yn uchel tu hwnt ac wedi arwain at dipyn o drafod cyn i'r beirniaid ddod i benderfyniad. Yn y pendraw, cafodd y ddwy ysgol lwyddiant gan i Gethin Clarke o Ysgol Gwent Is Coed ennill y siaradwr gorau o blaid y pwnc, a Hari James o Ysgol Bryn Tawe ennill y siaradwr gorau yn erbyn. Bydd y ddwy ysgol yn derbyn gwobr ariannol diolch i lwyddiant y bechgyn. O'r ddau fachgen, dim ond un oedd yn gallu ennill yr Her yn gyfan gwbl a phenderfynodd y beirniaid mai Hari James oedd hwnnw. Felly bydd Hari yn derbyn gwobr ychwanegol o brofiad gwaith o'i ddewis, wedi'i drefnu gan Academi Hywel Teifi ac ef yw deiliad tlws Her Sefydliad Morgan 2025.
Meddai Dr Jeff Davies, "Roedd hi'n brofiad gwych beirniadu Her Sefydliad Morgan eleni yn enwedig gyda'r Eisteddfod yn ymweld â'n hardal ni. Gyda deallusrwydd artiffisial yn chwarae rôl gynyddol yn ein bywydau pob dydd, roedd gosod hwn yng nghyd-destun gofal iechyd yn drafodaeth amserol tu hwnt. Roedd hi'n amlwg bod gwaith paratoi trylwyr tu ôl i ddadleuon yr holl gystadleuwyr, a phob un ohonynt wedi mynegi eu hunain mewn modd hyderus a medrus gan greu dipyn o benbleth i ni fel beirniaid! Gyda safon mor uchel, roedd y penderfyniad yn anodd ond Hari aeth â hi yn y diwedd."