Cystadleuaeth ddadl gyhoeddus, i'w chynnal fel rhan o weithgareddau Gwyddonle
Mae Prifysgol Abertawe yn noddi ac yn cynnal gweithgareddau yn y GwyddonLe, Pafiliwn Gwyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae Her Sefydliad Morgan wedi bod yn rhan o weithgareddau’r GwyddonLe ers 2018.
Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod T 2021, cynhaliwyd cystadleuaeth ddadl gyhoeddus Her Sefydliad Morgan ar Facebook Live. Noddwyd y gystadleuaeth gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan, canolfan Prifysgol Abertawe sy’n canolbwyntio ar ymchwil trawsnewidiol rhyngddisgyblaethol. Nod y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau yn ogystal â derbyn adborth gan feirniaid blaenllaw ym maes polisi a gwleidyddiaeth. Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd yr Aelod Seneddol, Ben Lake, a’r arbenigwr newid hinsawdd, Yr Athro Siwan Davies, Pennaeth Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe.
Yr ysgolion a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni oedd;
- Ysgol Bro Dinefwr
- Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
- Ysgol Gyfun Gŵyr
Bu chwech o gystadleuwyr yn cyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn y cwestiwn ‘Ai nawr yw’r amser i ddatgan argyfwng hinsawdd?’ Cafwyd perfformiadau gwych gan Lleucu a Rhiana o Ysgol Bro Morgannwg, Rhiannon ac Osian o Ysgol Bro Dinefwr, a Cadi a Gwenno o Ysgol Gyfun Gŵyr. Plesiwyd y beirniaid yn fawr gan safon y dadlau a gallu’r siaradwyr i ymchwilio’r pwnc yn drylwyr er mwyn seilio’u dadleuon ar ffeithiau. Meddai Ben Lake AS, “Braint oedd cael beirniadu cystadleuaeth o’r fath ansawdd, ac mi roedd hi’n dipyn o ben tost dewis enillydd. Pob clod i’r disgyblion a’u hysgolion, ond llongyfarchiadau i’r Academi am drefnu’r gystadleuaeth ac am roi cyfle euraidd iddynt yn y lle cyntaf.”
Llwyddodd Lleucu i ennill y wobr am y siaradwr gorau yn erbyn y pwnc, ac enillydd y wobr am y siaradwr gorau o blaid y pwnc, ac yna yr Her ei hun am siaradwr gorau y gystadleuaeth, oedd Gwenno Robinson o Ysgol Gyfun Gŵyr. Mae Lleucu yn ennill £250 i’w hysgol a Gwenno hithau’n ennill £250 i’w hysgol tra bydd hi ei hun yn manteisio ar brofiad gwaith wedi’i drefnu gan Academi Hywel Teifi. Llongyfarchiadau mawr i’r cystadleuwyr oll. Cyrhaeddodd y gystadleuaeth dros 9,000 o bobl ac mae modd i chi wylio’r gystadleuaeth yn ôl isod.
Gwyliwch y gystadleuaeth
Cynhaliwyd y cystadleuaeth ddadl gyhoeddus ar Facebook Live. Gallwch wylio'r gystadleuaeth isod.