Dysgu - Cyfleoedd cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe

Y mae staff yr Academi yn darparu cyngor a chynllunio strategol ar gyfer datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn amrywiaeth o bynciau ar draws y Brifysgol. Gan gydweithio’n agos ȃ'r Coleg Cymraeg, y mae cynnydd sylweddol wedi bod yn ein darpariaeth a’n corff o staff academaidd cyfrwng Cymraeg.

Mae gan fyfyrwyr hawl gyfreithiol i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae gan bob myfyriwr yr hawl i sefyll arholiadau, neu i gyflwyno gwaith i’w asesu, yn Gymraeg, p’un ai Cymraeg neu Saesneg yw prif iaith asesu’r modiwl dan sylw. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar ein tudalennau MyUni.

I ddysgu mwy am eich hawliau i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg, ewch i'n tudalen Mae gen i Hawl.

Logo Dysgu