Cangen Prifysgol Abertawe, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae Cangen y Brifysgol wedi'i lleoli yn Academi Hywel Teifi.  Fel aelod o’r Coleg, byddwch chi hefyd yn aelod o Gangen y sefydliad. Mae’r Gangen yn rhan allweddol o drefniadaeth y Coleg, a threfniadaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe, gan dynnu at ei gilydd aelodau o staff er mwyn trafod ac ystyried materion cyfrwng Cymraeg yn sefydliadol ac yn genedlaethol.

Mae Cangen Prifysgol Abertawe yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth i chi. Mae drws y gangen ar agor os ydych chi am fwy o wybodaeth am y cyfleoedd a’r gweithgaredd sydd ar gael yn y Brifysgol. Ystafell 162, Adeilad Talbot.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ryn ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.

Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.

 

Digwyddiadau'r Gangen

Fforwm Staff: Hydref 16eg, 2024 ac Ebrill 30ain, 2025

Cyfarfod Blynyddol y Gangen: Rhagfyr 4ydd, 2024

Fforwm Myfyrwyr: Hydref 14eg, 2024 a Mawrth 24ain, 2025

Fforwm Myfyrwyr Ôl-raddedig: Tachwedd 11eg, 2024 a Mai 12fed, 2025

Eich Swyddog Cangen yw 

Indeg Llewelyn Owen

Cymorthfeydd Cangen y Coleg Cymraeg

Rhan o waith y Gangen ydi gwneud yn siŵr fod yna ddigon o ddarpariaeth ar gael drwy'r Gymraeg i fyfyrwyr yma yn Abertawe, ac i gynnal y gymuned Gymraeg. Pob mis, mae'r Gangen yn cynnig cymorthfa ar Gampws y Bae a Champws Singleton. Mae hwn yn gyfle i fyfyrwyr alw heibio i siarad â'r Swyddog Cangen am sgwrs anffurfiol lle mae modd holi cwestiynau am y cwrs ac am fywyd cyffredinol fel myfyrwyr neu codi pryderon. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr gyfarfod â myfyrwyr Cymraeg eraill. Cynhelir y sesiynau galw heibio yn ystod y tymor academaidd rhwng 10am-12pm ar ddydd Mercher cyntaf pob mis ar gampws Singleton (Ystafell Talbot 162) ac ar ddydd Iau cyntaf pob mis ar gampws y Bae (Y Twyni). At hynny, mae swyddfa'r Gangen o hyd yn agored, ac mae croeso i myfyrwyr alw heibio ystafell Talbot 162 unrhyw bryd.