Tîm a strwythur y Gangen

Pwyllgor y Gangen

Cadeirydd y Gangen: Dr Alwena Morgan
Swyddog Cangen ac Ysgrifennydd y Pwyllgor: Indeg Llewelyn Owen
Is-gadeiryddion y Gangen: Dr Rhian Meara a Dr Osian Rees 
Cynrychiolaeth Myfyrwyr: Carys Dukes, Swyddog Materion Cymraeg Undeb y Myfyrwyr

Mae aelodaeth o'r gangen yn agored i unrhyw aelod o staff academaidd neu staff cefnogol sy’n aelod o’r Coleg. Cynhelir dau fforwm Cangen bob blwyddyn academaidd ac un Cynulliad Blynyddol. Mae'r Gangen yn sicrhau bod llais y gymuned academaidd yn cael ei hadlewyrchu yn natblygiad cynlluniau academaidd cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg.

Mae Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cynrychioli myfyrwyr y Brifysgol yng ngyfarfodydd y Gangen ac ar Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg. Mae'r Gangen yn sicrhau cynrychiolaeth a mewnbwn gan fyfyrwyr i brosesau cynllunio academaidd y Gangen trwy fforymau myfyrwyr ac mae Swyddog Materion Cymraeg yr Undeb yn Cadeirio'r Fforymau hynny. 

Dyddiadau Fforymau a'r Cynulliad Blynyddol

  • Fforwm Staff: Hydref 16eg, 2024 a Mai 7fed, 2025
  • Cyfarfod Blynyddol y Gangen: Rhagfyr 4ydd, 2024
  • Fforwm Myfyrwyr: Hydref 14eg, 2024 a Ebrill 14eg, 2025
  • Fforwm Myfyrwyr Ôl-raddedig: Tachwedd 11eg, 2024 a Mai 12fed, 2025

Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2024-25

Mae bod yn llysgennad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr hyrwyddo’r Gymraeg o fewn eu prifysgol yn ogystal â bod yn rhan o waith marchnata’r Coleg Cymraeg er mwyn hyrwyddo parhad y defnydd o’r Gymraeg o’r ysgol i’r gweithle. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys digwyddiadau, ymweliadau ysgolion, blogiau, cyfweliadau a gwaith ar wefannau cymdeithasol. 

Llysgenhadon Israddedig: 

  • Cara Medi Walters:  BA Cymraeg 
  • Daisy Gwyneth Bendle: Cymraeg Ail iaith 
  • Sara Niamh O’Connor:  Bydwreigiaeth 

Llysgenhadon Ôl-raddedig: 

  • Emily Louise Evans: PhD Cymraeg 
  • Megan Kendall: PhD Peirianneg Deunyddiau a Gweithgynhyrchu 
  • Maisie Edwards: PhD Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd drwy Ymchwil 
  • Siwan Davies: Cwrs Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol 
  • Sally Ann Nicholls: Addysg Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar