Tystysgrif Sgiliau Iaith
Os wyt ti yn astudio mewn Prifysgol yng Nghymru, beth am fanteisio ar Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol?
Mae’r Dystysgrif wedi ei datblygu er mwyn galluogi myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i ennill tystysgrif sy’n dangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o gyflogwyr wedi datgan eu cefnogaeth i’r Dystysgrif.
Bydd y Coleg yn trefnu sesiynau er mwyn dy gynorthwyo i baratoi ar gyfer y Dystysgrif ac mae adnoddau ychwanegol ar-lein. Er mwyn ennill y Dystysgrif mae angen gwneud cyflwyniad llafar a chwblhau prawf ysgrifenedig sy'n cynnwys tair tasg.
I ennill y Dystysgrif mae angen gwneud cyflwyniad llafar a chwblhau prawf ysgrifenedig sy’n cynnwys tair tasg.
Mae’r Dystysgrif yn agored i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio mewn prifysgol yng Nghymru.
Dyfernir y Dystysgrif ar dair gwahanol lefel:
- Llwyddo
- Clod
- Rhagoriaeth
Mae dyddiad cau cofrestru ar gyfer 2023 i'w gadarnhau
Am fwy o fanylion, ewch i dudalen Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.