Ysgoloriaethau Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig Ysgoloriaethau gwerth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd) os ydych yn dymuno astudio o leiaf 66% neu fwy o'ch gradd (neu 80 credyd y flwyddyn) drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyddiad cau mynediad 2025 yw 24 Ionawr 2025.
Am fanylion pellach, ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Am restr o'r cyrsiau cymwys, ewch i Chwilotydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cofiwch bod angen Ymaelodi â'r Coleg fel darpar fyfyriwr er mwyn medru ymgeisio!
Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig Ysgoloriaeth Cymhelliant gwerth £500 i myfyrwyr sy’n bwriadu astudio o leiaf 33% (o leiaf 40 credyd) o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cychwyn eu blwyddyn cyntaf yn y flwyddyn academaidd 2024-25 mewn UNRHYW BWNC.
Mae'r ffenestr ymgeisio eleni ar agor rhwng Awst 14 a Tachwedd 3 2025.
Gwnewch gais ar gyfer Ysgoloriaeth Cymhelliant
Gallwch wirio os yw eich cwrs yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth uchod gan ddefnyddio'r Chwilotydd cyrsiau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cofiwch bod angen Ymaelodi â'r Coleg fel darpar fyfyriwr er mwyn medru ymgeisio!

“Roeddwn yn ffodus iawn i dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol . Trwy dderbyn yr ysgoloriaeth, teimlaf fy mod i wedi dod yn rhan o gymuned ac wedi cwrdd â llawer o bobl eraill sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, felly roedd yn bleser dod i adnabod pobl sydd yn yr un cwch a fi. Daeth yr ysgoloriaeth yn ddefnyddiol iawn pan roedd rhaid i mi fuddsoddi mewn llyfrau yn ogystal a thalu am bethau bob dydd fel bwyd a chostau teithio. Rwyf wedi mwynhau astudio rhan o fy nghwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn edrych ymlaen at weddill fy nghyfnod yn Abertawe!”