Cyflogadwyedd
Un o brif amcanion y Brifysgol yw paratoi a hyrwyddo cyflogadwyedd myfyrwyr. Mae ein cyrsiau academaidd yn anelu at dy arfogi â’r profiad gwerthfawr a sgiliau lefel uchel y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Lle bynnag y bo’n bosibl, mae ein cyrsiau wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol. Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r yn y sector cyhoeddus n ein galluogi i ychwanegu gwerth gwirioneddol at dy addysg. Rydym yn gwrando ar gyflogwyr pan fyddant yn dweud wrthym pa sgiliau a phrofiadau y maent yn ei gwneud yn ofynnol gan eu gweithwyr graddedig, ac rydym yn teilwra’n cyrsiau i sicrhau dy fod yn ennill sgiliau proffesiynol o lefel uchel sy’n dy alluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol sydd ohoni.