Beth sydd ar gael yn y Gymraeg yn ôl Maes Pwnc

Mae gan Brifysgol Abertawe ddarpariaeth eang a chyffrous ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio cwrs gradd gyflawn neu ran ohoni trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau os ydych chi’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi adael yr ysgol neu’r coleg yn rhoi hwb i’ch cyfle i gael yr addysg orau. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae yna ddewis sy’n iawn i chi: o gyrsiau gradd cyfangwbl trwy’r Gymraeg i gyrsiau lle mae rhai modiwlau yn y Gymraeg. Mewn rhai pynciau mae’n bosibl cael dosbarthiadau seminar a thiwtorial ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Mae hawl gennych i ysgrifennu eich gwaith cwrs ac i sefyll eich arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis dilyn cyrsiau cyfrwng Saesneg. Mae’r hawliau yma wedi cael eu creu o ganlyniad i osod ‘Safonau’ ar y Brifysgol. Am fanylion pellach, ewch i'n tudalen Mae gen i Hawl

O barhau i astudio y cyfan neu ran o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, byddwch yn datblygu eich sgiliau yn y ddwy iaith – y Gymraeg a’r Saesneg – gan agor drysau i’ch hunan ar ôl i chi adael y Brifysgol.

Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe yn defnyddio nifer o dechnegau dysgu blaengar, gan gynnwys cipio darlithoedd, deunyddiau dysgu amlgyfrwng, fideo-gynadledda, cyrsiau preswyl, mewnbwn gan ymarferwyr proffesiynol, ac adnoddau ar lein, i gefnogi dulliau dysgu mwy traddodiadol, megis darlithoedd a’r llyfrgell. Trwy’r dulliau dysgu hyn, gall myfyrwyr Prifysgol Abertawe gymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd a gaiff eu cynnig gan sefydliadau eraill gan roi cyfle i chi fod yn rhan o gymuned addysgol ehangach. Mae yn Abertawe ofod dysgu penodol, yn sgil ein partneriaeth gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n ein galluogi i wneud hynny. 

Lawrlwythwch Ap Arwain Academi Hywel Teifi sy'n rhestri'r holl fodiwlau sydd ar gael yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. 

Llun o ap Arwain
Lawrlwythwch ap Arwain

Cyrsiau Israddedig gyda darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg