Astudio trwy'r Gymraeg ar Raglenni Ôl-raddedig

Mae gan Brifysgol Abertawe nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel ôl-raddedig ac mae Academi Hywel Teifi yma i’th gefnogi i wneud hynny trwy gydol dy amser gyda ni. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i ti astudio drwy’r iaith ar lefel israddedig yn gam naturiol ac o fantais sylweddol ac fe gei gefnogaeth ac anogaeth lawn i wneud hynny er mwyn ychwanegu at dy gyflogadwyedd, i feithrin sgiliau dadansoddi ac i ddangos y gallu i weithio mwy nag un iaith.

Mae’r Academi yn darparu cymuned i’r miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma, ac i staff cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Drwy gefnogi adrannau’r Brifysgol mae’r Academi wedi galluogi cynnydd sylweddol yn nifer y pynciau sydd yn cael eu dysgu trwy’r Gymraeg yn Abertawe. Ymhlith y datblygiadau diweddaraf mae ein Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) er mwyn hyfforddi Athrawon Uwchradd y dyfodol mewn ystod o feysydd, ac mae’n cwrs Meddygaeth i ôl-raddedigion yn un uchel iawn ei barch.

Cyfuniad o fodiwlau yw cynnwys cwrs gradd. Mae’r modiwlau yn werth swm penodol o gredydau ac mae angen i chi gwblhau cyfres o fodiwlau a fydd yn gyfystyr â 120 o gredydau ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Mae rhai ohonynt yn fodiwlau craidd sy’n fodiwlau sylfaenol i’r raglen astudio ac sy’n rhaid eu dilyn, mae eraill yn fodiwlau dewisol er mwyn ategu at eich diddordeb a’ch llwybr dewisol o fewn y cwrs. 

Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe yn defnyddio nifer o dechnegau dysgu blaengar, gan gynnwys cipio darlithoedd, deunyddiau dysgu amlgyfrwng, fideo-gynadledda, cyrsiau preswyl, mewnbwn gan ymarferwyr proffesiynol, ac adnoddau ar lein, i gefnogi dulliau dysgu mwy traddodiadol, megis darlithoedd a’r llyfrgell. Trwy’r dulliau dysgu hyn, gall myfyrwyr Prifysgol Abertawe gymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd a gaiff eu cynnig gan sefydliadau eraill gan roi cyfle i chi fod yn rhan o gymuned addysgol ehangach. Mae yn Abertawe ofod dysgu penodol, yn sgil ein partneriaeth gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n ein galluogi i wneud hynny. 

Lawrlwythwch Ap Arwain Academi Hywel Teifi sy'n rhestri'r holl fodiwlau sydd ar gael yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. 

 

Llun o ap Arwain
Lawrlwythwch ap Arwain

Tystysgrif Addysg i Raddedigion

Meistr a Addysgir