Cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg

Nod Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi yw cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio maes yn ymwneud â chyfraniad y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards i ddysg a diwylliant Cymru - yn benodol ym meysydd:

  • Hanes
  • Llenyddiaeth
  • Cymraeg
  • Gwleidyddiaeth
  • Y cyfryngau‌
  • Drama
  • Crefydd
  • Astudiaethau Diwylliannol

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaeth, sy’n werth £3000, gan unigolion sydd am astudio cwrs ôl-radd cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn un o’r meysydd astudiaeth uchod.

I ymgeisio am yr ysgoloriaeth, anfonwch lythyr cais, CV ac amlinelliad o’ch maes ymchwil at Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Yr Athro Gwenno Ffrancon, erbyn 4ydd Gorffennaf 2025.Darllenwch yr Amodau a Thelerau  cyn cwblhau cais.

Mae’n rhaid bod ymgeiswyr yn gwneud cais am PhD, MPhil neu MRes i ddechrau rhwng Awst 2025 a Gorffennaf 2026. Nid yw graddau Meistr a Addysgir yn gymwys. Cynigir yr ysgoloriaeth hon bob yn ail flwyddyn.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch gyda Yr Athro Gwenno Ffrancon