Ydych chi'n ystyried astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?
Dyma gynllun bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle, yn hytrach na thrwy’r Saesneg. Mae’r gystadleuaeth hon yn cynnig 7 bwrsari gwerth £100 yr un i fyfyrwyr lefelau Sylfaen, 4, 5, 6, a 7 sydd yn astudio o leiaf 5 credyd o fodiwl trwy gyfrwng y Gymraeg mewn un semester. Mae’r bwrsariaethau hyn yn agored i fyfyrwyr sy’n astudio'r meysydd isod;
- Addysg
- Astudiaethau Busnes
- Bioleg
- Cemeg
- Parafeddygaeth
- Peirianneg
- Mathemateg
- Seicoleg
- Gwaith Cymdeithasol
Bydd ceisiadau ar gyfer 2024-25yn cau ar 22ail Hydref 2024.
Telerau ac Amodau
Darllenwch y Telerau ac Amodau cyn cwblhau cais.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â
Indeg Llewelyn Owen - i.l.owen@abertawe.ac.uk