Ydych chi'n ystyried astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?
Dyma gynllun ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle, yn hytrach na thrwy’r Saesneg. Mae’r cynllun hwn yn agored i fyfyrwyr lefelau Sylfaen, 4, 5, 6, a 7 ac mae 55 o ysgoloriaethau gwerth £300 yr un ar gael i’r rhai sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o geisiadau a dderbyniwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan osod safon uchel i’r gystadleuaeth. O ganlyniad, anogir ymgeiswyr i dreulio amser yn cwblhau ceisiadau cryf i’w cyflwyno er mwyn sicrhau’r cyfle gorau i ennill Ysgoloriaeth.
Mae’r ysgoloriaethau hyn yn agored i fyfyrwyr sy’n astudio’r meysydd isod:
- Addysg
- Astudiaethau Busnes
- Astudiaethau'r Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
- Biocemeg
- Biowyddorau
- Bydwreigiaeth
- Cemeg
- Daearyddiaeth
- Ffiseg
- Geneteg
- Gwaith Cymdeithasol
- Hanes
- Ieithoedd Modern Tramor
- Meddygaeth
- Nyrsio
- Parafeddygaeth
- Seicoleg
- Y Gyfraith
Bydd ceisiadau ar gyfer 2024-25 yn cau ar yr 22ail Hydref 2024.
Telerau ac Amodau
Darllenwch y Telerau ac Amodau cyn cwblhau cais.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â
Indeg Llewelyn Owen - i.l.owen@abertawe.ac.uk