Datblygiadau Cymraeg ym maes Therapi Galwedigaethol
O fis Medi 2025, bydd y radd Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig 40 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg - yr unig gwrs Therapi Galwedigaethol yng Nghymru i gynnig o leiaf 40 credyd y flwyddyn yn Gymraeg! Mae myfyrwyr sy'n dewis y llwybr Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe bellach yn gymwys i ymgeisio am Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg ac ysgoloriaethau Academi Hywel Teifi y Brifysgol.
Mae Therapi Galwedigaethol yn yrfa werth chweil sy'n galluogi ein myfyrwyr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i annibyniaeth ac ansawdd bywyd pobl. Trwy gydol y cwrs Therapi Galwedigaethol, bydd myfyrwyr yn dysgu'r sgiliau i helpu pobl i oresgyn anawsterau a achosir gan salwch, anabledd, damweiniau neu heneiddio.
“Rydym yn hynod falch o allu cynnig darpariaeth sylweddol trwy gyfrwng y Gymraeg ar ein rhaglen Therapi Galwedigaethol,” meddai Alexander Smith, Uwch Ddarlithydd Therapi Galwedigaethol. “Mae gallu cynnig 40 credyd y flwyddyn trwy’r Gymraeg yn garreg filltir gyffrous – y cam cyntaf mewn cynllun strategol i ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg y rhaglen. Mae un o’r modiwlau Cymraeg yn seiliedig ar leoliad gwaith ymarferol, gan sicrhau effaith uniongyrchol ar ddefnydd y Gymraeg yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol – sy’n cyd-fynd yn llawn â gweledigaeth Mwy Na Geiriau.”
Ychwanegodd Dr Alwena Morgan, Arweinydd y Gymraeg yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ac aelod o Banel Cynghori Mwy na Geiriau, “Mae’r datblygiad hwn yn adlewyrchu strategaeth Prifysgol Abertawe i gryfhau’r Gymraeg mewn addysg uwch, a chyfrannu’n gadarnhaol at nodau Llywodraeth Cymru a chynllun Mwy na Geiriau i greu diwylliant o gynnig gwasanaethau Cymraeg er mwyn i bobl dderbyn gofal, fel partneriaid cyfartal, drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma gam arall sy’n cynrychioli ein hymrwymiad cadarn i gefnogi myfyrwyr Cymraeg, ac i sicrhau bod gweithlu iechyd y dyfodol yn gallu darparu gwasanaethau dwyieithog o safon."
Bydd y ddarpariaeth newydd ar gael i fyfyrwyr sy’n dechrau’r cwrs Therapi Galwedigaethol ym mis Medi 2025.