Mae'r Academi Iechyd a Lles yn ganolfan ragoriaeth â’r nod o hyrwyddo profiad cadarnhaol o enedigaeth i fenywod a chymdeithas. Mae'r Academi yn hyrwyddo amrywiaeth o fentrau bydwreigiaeth, ac yn gwella profiad y myfyrwyr drwy eu cynnwys mewn agweddau sylfaenol ar rôl y fydwraig.
Mae ein menter Bydwreigiaeth yn hyrwyddo diwylliant o enedigaeth ffisiolegol ac ymagwedd gadarnhaol at fagu plant fel y safon arferol. Ein nod yw arwain y ffordd, drwy'r Academi a'r gymuned bydwreigiaeth ehangach, yn yr ymgyrch dros newid mewn gwasanaethau bydwreigiaeth, er mwyn sicrhau bod pob menyw'n cael mynediad i ofal priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
CADWCH LE NAWR
- Gallwch gadw lle drwy e-bostio Emma Oliver
- Addysg cyn geni mewn grŵp bach ym Mhrifysgol Abertawe, a arweinir gan fydwragedd dan hyfforddiant yn eu blwyddyn olaf
- £0 am gwrs chwe wythnos i chi a'ch partner geniUn sesiwn yr wythnos, 6-8pm
- Yn addas ar gyfer wythnos 28 o feichiogrwydd ac ymlaen
- Mynediad at grŵp cymunedol ar Whatsapp i gefnogi eich gilydd
- Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael - dim ond saith pâr fesul grŵp
Mae ein Dosbarthiadau Cyn Geni Geni, Babi a Chi yn ffocysu ar olwg mwy cyfannol ar baratoi ar gyfer genedigaeth a magu plant. Dan arweiniad myfyrwyr bydwreigiaeth gyda chefnogaeth bydwragedd cymwys, bydd ein rhaglen yn eich arwain a’ch cefnogi chi a’ch partneriaid geni trwy chwe wythnos o ddosbarthiadau cyn geni:
- Wythnos Un: Eich Baban sy'n Datblygu
- Wythnos Dau: Paratoi ar gyfer Genedigaeth
- Wythnos Tri: Genedigaeth, Babi a Chi
- Wythnos Pedwar: Gobeithion ac Ofnau
- Wythnos Pump: Bwydo eich Babi
- Wythnos Chwech: Gofalu am Fabi, Gofalu Amdanat Ti
Amserlen dosbarth:
Parcio am ddim ar y campws
Yr Academi Iechyd a Llesiant, Adeilad Glyndŵr, Prifysgol Abertawe