Os oes gennych angerdd am addysgu a'r brwdfrydedd i lunio addysg ar gyfer y genhedlaeth nesaf, efallai mai Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE) fydd y cam nesaf i chi.
Fel rhan o Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe, rydym yn cynnig rhaglenni hyfforddiant athrawon achrededig mewn Addysg Gynradd ac Uwchradd. Ein gweledigaeth, sydd wedi'i llywio gan gydweithrediad rhwng y Brifysgol ac ymarferwyr ysgolion, yw datblygu ymarferwyr myfyriol sydd wedi’u llywio gan ymchwil, gan sicrhau bod gan weithlu athrawon y dyfodol y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad i wneud gwahaniaeth i ddysgwyr ifanc yng Nghymru, y DU a'r tu hwnt.
Sylwer ein dyddiadau cau cais ar gyfer mynediad 2026/27:
PGCE Cynradd (DU a Rhyngwladol) – 18:00, 14 Ionawr 2026
TAR Cynradd - 09:00, 24 Awst 2026
PGCE Uwchradd (DU - pob llwybr) - 09:00, 24 Awst 2026
PGCE Uwchradd (Rhyngwladol - pob llwybr) - 18:00, 5 Mehefin 2026