Diwrnod TAR Cyfrifiadureg

Yn galw ar yr holl Gyfrifiadurwyr! Oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu? Yn ystod y digwyddiad, byddi di'n gallu cael mwy o wybodaeth am y cyfle cyffrous hwn a chwrdd â'r tîm TAR. Cymhellion ariannol hael gwerth hyd at £25,000 o bunnoedd ar gael i fyfyrwyr cymwys! Nid oes angen cadw lle felly mae pob croeso i ti alw heibio i weld y tîm TAR rhwng 11am-2pm.

Pryd: 13 Mawrth rhwng 11am a 2pm

Ble: Ffowndri Gyfrifiadol, Prifysgol Abertawe, Campws y Bae, Abertawe SA1 8EN

myfyrwyr yn sgwrsio

Noson Agored Rithwir TAR

Ymunwch â ni yn ein Noson Agored Rithwir TAR Cynradd ac Uwchradd! Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm TAR, ein myfyrwyr a'r ysgolion sy'n bartneriaid â ni yn ein sesiwn holi ac ateb fyw ar Zoom i ganfod mwy am astudio gyda ni o fis Medi 2025!  

Pryd: Nos Iau 13 Mawrth 6.00-7.30pm

Archebwch eich lle
Myfyrwyr yn eistedd ar eu cliniaduron mewn caffi

Ffair Gwybodaeth Ôl-raddedig

Os ydych chi'n ystyried gwneud cais am radd Ôl-raddedig gyda ni, mae ein ffair wybodaeth yn gyfle perffaith i gael cyngor a chefnogaeth am astudiaethau Ôl-raddedig yn Abertawe a chael gwybodaeth gan ein hacademyddion, timau ymchwil Ôl-raddedig a Chyllid Myfyrwyr.

Byddwn yn cynnal dwy ffair wybodaeth ar draws ein Campysau Parc Singleton a Bae Abertawe.

Archebwch eich lle:

19eg Mawrth 2025 - Campws Singleton

26ain o Fawrth - Campws Bae Abertawe
Myfyrwyr yn cerdded trwy campws

Noson Agored TAR Cymraeg

Dewch i’n noson agored i sgwrsio cyfrwng cymraeg gyda’n tîm cyfeillgar i ddysgu mwy am:

  • ein rhaglenni TAR Cynradd ac Uwchradd
  • y cyllid sydd ar gael i chi
  • ein darpariaeth Gymraeg
  • cyfleoedd a chefnogaeth os ydych chi’n ansicr neu’n ddi-hyder am ddilyn y llwybr cyfrwng Cymraeg
  • ein tîm Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
  • cyfleoedd gwaith

Pryd: 26 Mawrth 6.00-7.30pm

Ble: Tŷ Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW

Archebwch eich lle
Myfyrwyr yn eistedd ar grisiau tu allan i ty fulton