1. Beth yw TAR? Mae’r Dystysgrif Addysg Ôl-raddedig (TAR) yn gwrs amser llawn, 36 wythnos, wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno’n gydweithredol gan Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA). Wrth gwblhau’r cwrs, byddwch yn meithrin y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad mewn ysgol i’ch galluogi i fod yn athro cymwysedig llwyddiannus.
2. Pa lefel yw TAR? Mae rhaglen TAR Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA) yn cynnwys 60 o gredydau ar lefel 7 (Lefel Meistr) a 60 o gredydau ar lefel 6 (blwyddyn olaf gradd Baglor) ar y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FfCAU).
3. Am faint mae TAR yn para? Mae TAR PYPA yn rhaglen amser llawn sy’n para blwyddyn. Drwy gydol y flwyddyn academaidd, byddwch yn treulio 120 o ddiwrnodau ar leoliadau gwaith mewn ysgolion a 60 o ddiwrnodau ar ddarpariaeth yn y Brifysgol.
4. Sut rydw i’n cyflwyno cais am y rhaglen TAR? I gyflwyno cais, dewiswch eich arbenigedd yma TAR Uwchradd / TAR Cynradd a chliciwch ‘cyflwyno cais’ yng nghornel dde uchaf tudalen y cwrs. Cewch eich cyfeirio at wefan UCAS lle byddwch yn gallu dechrau’r broses ymgeisio.
5. Beth yw cost TAR? Ffioedd dysgu TAR ar gyfer myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yw £9,250. Ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd yw £19,300.
6. Ydy’r TAR yn fy nghymhwyso i addysgu? Ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich argymell ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC) i Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Bydd hyn yn eich galluogi i addysgu fel Athro Newydd Gymhwyso (ANG). Mae CAS yn caniatáu i chi addysgu yng Nghymru a Lloegr, ac mewn nifer o wledydd eraill hefyd. Rydym yn eich cynghori i wirio gyda chymdeithas addysgu’r wlad dan sylw i gadarnhau bod modd trosglwyddo eich statws a’i fod yn cael ei gydnabod.
7. Oes modd i mi gael benthyciad myfyriwr i wneud TAR? Ewch i’n tudalen Cyllid ar gyfer TAR i gael rhagor o wybodaeth am fenthyciadau myfyrwyr, cyllid ychwanegol ar gyfer myfyrwyr cymwys a Chymhelliant Hyfforddi Athrawon Llywodraeth Cymru.
8. Ydy cymhelliadau hyfforddiant i athrawon Llywodraeth Cymru ar gael ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau yn 2025/26? Bydd gan bob myfyriwr TAR Uwchradd sy'n astudio TAR Bioleg, Cemeg, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth, Mathemateg, Ieithoedd Tramor Modern (ITM), Ffiseg a Chymraeg, gyda dosbarthiad gradd blaenorol o 2.2 neu uwch, hawl i dderbyn cymhelliant o £15,000.
Bydd y cymelldaliadau gwerth cyfanswm o £15,000 yn cael eu gwneud mewn tri rhandaliad. Byddant yn cael eu talu ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:
- £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR (taliad yn ystod y rhaglen)
- £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr (taliad SAC)
- £3,000 ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yng Nghymru yn llwyddiannus (y cymelldaliad olaf)
Am ragor o wybodaeth, gweler nodiadau arweiniol 2025/26 yma
Mae Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn grant sydd ar gael i fyfyrwyr Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol sy'n astudio rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Am ragor o wybodaeth, gweler nodiadau arweiniol 2025/26 yma.
9. A oes ariannu ar gael ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu i addysgu yn y Gymraeg 2025/26? Oes. Tâl cymhelliant yw Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory, i unigolion cymwys sy’n cwblhau rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon uwchradd achrededig i raddedigion yng Nghymru sy’n ei gwneud yn bosibl iddynt addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu i addysgu’r Gymraeg fel pwnc. Mae cyfanswm o £5000 ar gael i ddarpar athrawon cymwys, a delir mewn dwy ran:
- £2,500 i unigolion cymwys ar gwblhau rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon uwchradd gymwys i raddedigion yng Nghymru sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig;
- £2,500 i unigolion cymwys ar gwblhau’n llwyddiannus gyfnod sefydlu mewn ysgol uwchradd Gymraeg neu ddwyieithog a gynhelir neu yn addysgu’r Gymraeg mewn unrhyw leoliad uwchradd a gynhelir yng Nghymru.
10. Beth yw cyflog athrawon yng Nghymru? Ar hyn o bryd mae cyflog cychwynnol athrawon newydd yng Nghymru dros £30,000. Yn ystod eich bywyd gwaith, gallwch ddisgwyl cynyddu eich cyflog wrth i chi ennill profiad a chymryd dyletswyddau bugeiliol/academaidd ychwanegol, e.e. yn eich cyfadran neu fel tiwtor. Bydd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) hefyd yn cael ei gynnig i gynyddu a gwella eich sgiliau trwy gydol eich gyrfa.
Os oes gennych gwestiwn sydd heb gael ei ateb ar y dudalen hon, cysylltwch â ni drwy e-bost yma