Wedi'i chynnal yng Nghaerdydd ym mis Mai 2025, daeth ail gynhadledd CREYN, a gynhelir bob dwy flynedd, â chynadleddwyr o bob cwr o Gymru a'r DU ynghyd i archwilio hawliau plant mewn ymarfer. Roedd y digwyddiad yn cynnwys anerchiadau cyweirnod gan yr Athro Jane Murray a'r Athro Jane Williams, a gweithdai dan arweiniad sefydliadau gan gynnwys Achub y Plant Cymru, Ysgol y Goedwig a Meithrinfa Gymunedol Tŷ Plant. Lansiodd y gynhadledd yr Adduned i Fabanod yng Nghymru, galwad i weithredu ar gyfer gweithwyr proffesiynol a chymunedau i roi anghenion a lleisiau babanod wrth wraidd gwneud penderfyniadau.

Mae'r fenter hon yn cydnabod anghenion datblygiadol unigryw babanod ac yn annog y rhai hynny sy'n rhoi gofal, gweithwyr proffesiynol a chymunedau, i gefnogi eu lles emosiynol, corfforol a chymdeithasol. Mae'n rhoi pwyslais ar y pwysigrwydd o wrando ar fabanod a chreu amgylchoedd i feithrin babanod lle gallant ffynnu.

Adnoddau ar gyfer Ymarferwyr a Theuluoedd
Mae CREYN wedi datblygu cyfres o daflenni sydd wedi'u teilwra i grwpiau oedran gwahanol (0-5 mlwydd oed), gan helpu rhieni ac ymarferwyr i ddeall a chefnogi hawliau plant. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Dyma Fi! (0-12 mis oed)
- Dwi'n archwilio! (1-2 mlwydd oed)
- Edrychwch arna i nawr! (2-3 mlwydd oed)
- Gwyliwch fi'n mynd, bant â fi! (3-5 mlwydd oed)

CODI YMWYBYDDIAETH O HAWLIAU PLANT - Y Rhwydwaith CREY mewn dogfennau arweiniad
Mae'r strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi'r cynllun o ran sut bydd Llywodraeth Cymru'n codi ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru tan ddiwedd 2023. https://gov.wales/sites/default/files/publications/2021-11/raising-awareness-of-childrens-rights.pdf
Mae Rhwydwaith CREY yn cael sylw penodol yn yr adran Blynyddoedd Cynnar i gefnogi'r rhwydwaith hawliau plant yn y blynyddoedd cynnar. Byddwn yn cefnogi'r rhwydwaith hwn i ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd i rannu ymarfer da o ran hawliau plant.