Mae Dr Lyn Sharratt yn ymarferydd, yn ymchwilydd, yn awdur ac yn gyflwynydd dawnus. Mae gan Lyn BA mewn Gwaith Cymdeithasol o Brifysgol Waterloo, Canada; B. Ed mewn Addysgu, K-10, o Brifysgol Western Ontario, Canada; M. Ed. mewn Gweinyddu Addysg o Sefydliad Ontario ar gyfer Astudiaethau mewn Addysg, Canada ac Ed. D. mewn Astudiaethau Damcaniaeth a Pholisi o Brifysgol Toronto, Canada. Mae'n cydlynu'r rhaglen interniaeth ddoethurol mewn Arweinyddiaeth yn Adran Addysg Bellach ac Addysg i Oedolion Sefydliad Ontario ar gyfer Astudiaethau mewn Addysg, Prifysgol Toronto. Mae Lyn wedi gweithio mewn pedwar rhanbarth ysgol ledled Ontario fel uwch-arolygydd ysgolion, uwch-arolygydd cwricwla ac addysgu, gweinyddwr, arweinydd cwricwlwm ac athrawes Addysg Arbennig. Mae Lyn wedi addysgu'r holl ddosbarthiadau cynradd a disgyblion o oedran uwchradd mewn lleoliadau trefol a gwledig. Mae hi wedi dadansoddi a rhoi sylwadau ar bolisi cyhoeddus ar gyfer sefydliad ymddiriedolwyr taleithiol, Cymdeithas Byrddau Ysgolion Cyhoeddus Ontario; mae hi wedi darparu addysg cyn gwasanaeth ym Mhrifysgol York ac mae hi wedi addysgu myfyrwyr Meistr a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Toronto a Phrifysgol Nipissing ac mae hi wedi arwain Datblygiad Proffesiynol mewn swydd mewn prif swyddfa undeb athrawon daleithiol.
Mae Lyn yn gwasanaethu ar y Panel Gwerthuso Arbenigol ar gyfer Gwella Systemau ac Ysgolion, Ysgol Addysg Ôl-raddedig Melbourne, Awstralia; mae’n ymgynghorydd i’r Arweinyddiaeth Ysgolion Ryngwladol gyda Chyngor Penaethiaid Ontario; yn Awdur Ymgynghorol i Corwin Publishing, UDA ac mae’n ymgynghori’n rhyngwladol ag arweinwyr systemau, ysgolion ac athrawon ar bob lefel yn Awstralia, Canada, Chile, y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau. Mae’n gweithio’n ddiwyd, gan ganolbwyntio ei hamser a’i hymdrechion ar wella cyflawniad pob myfyriwr drwy gydweithio ag arweinwyr ac athrawon i gysylltu WYNEBAU â’u data a chymryd camau bwriadol. Mae ei gwaith diweddaraf wedi bod yng Nghymru.