Gan ddathlu modelau rôl gwrywaidd cadarnhaol a'r nerth cariadus mae dynion yn ei roi i'w teuluoedd a'u cymunedau, cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Dynion ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022.

Eleni, caiff tair thema eu hamlygu drwy gyfres o ddigwyddiadau dan arweiniad darlithwyr ac ymchwilwyr blaenllaw o Brifysgol Abertawe.

  • Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i les a bywydau dynion a bechgyn
  • Hyrwyddo sgwrs gadarnhaol am ddynion, dyndod a gwrywdod
  • Codi ymwybyddiaeth a/neu arian i elusennau sy'n cefnogi lles dynion a bechgyn

 

Mae'r fideo yma wedi cael ei greu gan ymgyrch ryngwladol i ddangos pwysigrwydd nodi'r diwrnod penodol hwn.

Beth yw diben Diwrnod Rhyngwladol y Dynion?

Gyda Dr Michael R.M. Mae Ward, bydd y sgwrs hon yn gofyn cwestiynau ynghylch diben a rhesymeg Diwrnod Rhyngwladol y Dynion, yn ogystal ag amlygu sut gellir ei ddefnyddio fel llwyfan i amlygu materion pwysig sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac i herio'r llwybrau y disgwylir i'r rhywiau eu dilyn sy'n niweidio dynion ac eraill.

Gwybodaeth Pellach

Diwrnod Rhyngwladol y Dyn

15/11/2022

13:00 - 14:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
toriadau pinc a glas o bobl

Am mae testosteron yn bwysig?

Gyda'r Athro Gareth Stratton. Cysyniad diddorol yw dod yn ddyn gan fod yr hormon "T" sylfaenol yn effeithio ar gynifer o bethau wrth i ddynion heneiddio, gyda llu o effeithiau ar iechyd a lles. Mae'r gweithdy hwn yn gwahodd ymagwedd gyfranogol, gan rannu anecdotau, straeon a chwerthin heb os!

Gwybodaeth Pellach

Diwrnod Rhyngwladol y Dyn

16/11/2022

10:00 - 23:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
moleciwlau

Bwrw ymlaen drwy fwrw golwg yn ôl

Gyda'r Athro Jo Hudson (Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg), yn y sesiwn hon byddwn yn archwilio'r cyflyrau meddwl gwahanol rydym yn eu profi drwy gydol y diwrnod, yr wythnos a'r mis ac yn ystyried yr effaith y gallant ei chael arnom, gan gynnwys ein lles, ein cynhyrchiant yn y gwaith ac o bosib ein perthnasoedd ag eraill o'n cwmpas.

Gwybodaeth Pellach

Diwrnod Rhyngwladol y Dyn

17/11/2022

11:00 - 12:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
galaeth gyda niwronau

Movember

logo undeb myfyrwyr prifysgol abertawe gyda mwstas

Yn ogystal â'r gyfres o ddigwyddiadau, mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe'n canolbwyntio ar iechyd meddwl dynion ac atal hunanladdiad, canser y prostad a chanser y ceilliau drwy eu hymgyrch elusennol flynyddol, Tashwedd.

Mae digon o amser i dyfu eich 'tash! Ewch i'r dudalen Tashwedd i ddechrau tyfu.