Mae University Dental Care yn cynnig ystod lawn o driniaethau GIG a Phreifat. Mae ar agor i fyfyrwyr, staff, y cyhoedd a theuluoedd. Mae lleoedd GIG ar gael i fyfyrwyr sy’n cofrestru ar ddechrau’r tymor academaidd, ond mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.
Mae'r gwasanaeth yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys y gwyliau.
Mae hawl gan yr holl gleifion dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru i dderbyn archwiliadau deintyddol am ddim. Sylwer y caiff ffioedd eu codi ar gyfer unrhyw driniaeth ddeintyddol arall dan y GIG oni bai bod yr unigolyn sy'n derbyn y driniaeth dan 19 oed (mewn addysg lawn-amser) neu fod ganddo/ganddi Dystysgrif Eithrio - mae ffurflenni hawlio cymorth â chostau iechyd ar gael yn y deintyddfa.
Lleoliad: Tŷ Horton (23 ar fap y campws)
Ffôn: +44 (0) 1792 602222 Est. 2222
Cyngor Deintyddol Brys (y tu allan i oriau):
Dylai cleifion GIG ffonio Galw Iechyd Cymru ar 111 os yw'r ddeintyddfa ar gau.
Am ragor o wybodaeth, gweler apwyntiadau.
E-bost: hello@udc.wales
Gwefan: www.universitydentalcare.co.uk
Llinell Gymorth “Oddi Cartref” i gleifion sydd wedi'u cofrestru gyda Chynllun Gofal Deintyddol UDC.
Y DU: 0800 525 631
Dramor: +44 1747 820 841
Oriau agor y deintyddfa:
O bryd i'w gilydd, caiff oriau agor arbennig (trefniadau cau, gwyliau ayyb) eu postio ar wefan Gofal Deintyddol y Brifysgol.
Llun | 08.30-16.30 |
Mawrth | 08.30-16.30 |
Mercher | 08.30-16.30 |
Iau | 08.30-16.30 |
Gwener | 08.30-15.30 |
Deintyddion: Gayathri Kini, Maria Efraimidou, Owen Emanuel
Hylenydd: Cathryn Wilde, Kamima Chipongo
Cydlynydd Practis: Hannah Morrissey
Staff Deintyddol: Francesca Wendes, Abby Pridmore, Lauren Cornwell
Derbynnydd: Danielle Davies
Mae'n bwysig eich bod yn cofrestru â deintydd cyn gynted ag yr ydych yn cyrraedd yn Abertawe er mwyn cael mynediad at ofal GIG a gallu cael apwyntiadau cynnar os oes problemau neu achosion brys yn codi. Mae Cofrestru am ddim i'r holl gleifion dan 25 oed. Codir ffi fach o £14.70 i fyfyrwyr dros 25 oed.
Mae Triniaeth Breifat ar gael i gleifion a hoffai elwa o Ofal Preifat ar sail talu wrth fynd neu drwy ymuno â Chynllun Gofal y Ddeintyddfa.
SYLWER BOD COFRESTRU GYDA'R DEINTYDDFA YN BROSES AR WAHÂN I GOFRESTRU Â'R GANOLFAN IECHYD