Rydw i wedi symud llawer yn fy mywyd fel oedolyn. Rydw i wedi symud ar fy mhen fy hun chwe gwaith dros ddwy fil o filltiroedd, bob tro. Yr unig dro i fy mam erioed boeni amdanaf, serch hynny, oedd pan symudais i Gymru i fynd i’r Brifysgol. ‘Mae’n bell iawn’ meddai. ‘Os bydd rhywbeth yn digwydd, mae yna ffin a fisâu a phasbortau cyn allu dy gyrraedd.’ Ar y pryd nes i ddim cymryd llawer o sylw. Roeddwn i'n annibynnol. Roeddwn i'n gwybod yr hyn oeddwn i eisiau, a chefais i hynny.
Roeddwn i'n gwybod am beth roedd hi'n poeni. Dim ond unwaith y soniodd amdani; pan ddwedais i fy mod i’n hoyw. Rhybuddiodd hi fi am ddod allan yn yr ysgol. Nid oherwydd ei bod â chywilydd neu’n grac na’n meddwl llai amdana i, ond oherwydd bod ofn arni. Mae pobl fel fi yn dal i gael eu lladd hyd yn oed mewn llefydd blaengar fel LA a Llundain dim ond am ddal dwylo a cherdded i lawr y stryd.
Wrth edrych yn ôl arno, roedd yn fwy o beth nag y sylweddolais yn wreiddiol. Doedd gen i ddim syniad beth fyddai'n digwydd pan wnes i ddod. Wrth gwrs, digwyddodd dim byd drwg. Cefais fy nghroesawu â breichiau agored i mewn i Gymru (hyd yn oed oes oeddwn i ond siarad yr hanner llai cŵl o’r ddwy iaith). Roedd gen i ffrindiau a ddathlodd fi am y person oeddwn i. Doeddwn i erioed wedi gorfod newid pwy oeddwn i na sut roeddwn i'n teimlo. Ni theimlais erioed yr angen i esgus nad oeddwn i’n hoyw hyd yn oed ar gyfer y pethau lleiaf. Roedd gen i staff a wnaeth fy nghefnogi i wneud yn well. Ac oherwydd hynny mi wnes i ffynnu yn yr amgylchedd newydd hwn; ac am y tro cyntaf teimlais fy mod yn gallu bod y person oeddwn i’n wirioneddol. O'r fan honno, parnais yr hyder a'r addysg honno i mewn i yrfa anhygoel.
Rwy'n oedi weithiau wrth adrodd y straeon hyn. Rwy'n ymwybodol o'r ffaith nad wyf wedi wynebu llawer o adfyd yn fy mywyd. Rydw i wedi byw bywyd ‘normal’ mewn sawl ffordd. Ond yna dwi'n meddwl wrth fy hun, onid dyna bwynt y cyfan? Onid dyna bwynt y gorymdeithiau, y protestiadau, yr achosion cyfreithiol a’r areithiau angerddol ar gorneli stryd? Na fyddai’n rhaid i rywun fel fi dreulio fy nyddiau yn amddiffyn fy hawl i fodoli.
Er nawr mae pobl yn fy nathlu i a’m gwahaniaethau; nid oedd pobl o'm cwmpas pan oeddwn yn y brifysgol. Mae'r un peth yn wir heddiw yn fy ngyrfa. Doedd gen i ddim pobl yn tyfu i fyny a oedd yn agored ac yn falch o fod yn hoyw.
Felly dwi'n adrodd y straeon hyn i wneud y peth pwysicaf y gallaf ei wneud sef i fod yn weladwy ac i fod y person y bydden i wedi hoffi gallu edrych i fynu ato.