Beth yw Undeb Myfyrwyr? Sut gallaf gymryd rhan? Beth yw'r NUS? Mae'r atebion i'ch holl gwestiynau isod! Ac os na allwch chi weld yr ateb i'ch cwestiwn chi, e-bostiwch Undeb y Myfyrwyr yn info@swansea-union.co.uk
Cwestiynau Cyffredin Undeb y Myfyrwyr
- Clybiau a Chymdeithasau
- Canvas
- Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
- Mis Hanes LHDT+ 2024
- Mis Balchder Prifysgol Abertawe 2024
- Diwrnod Rhyngwladol y Dynion
- Cyfleusterau'r Campysau
- Adolygiadau Gan Fyfyrwyr
- Y 5 lle gorau yn Abertawe i’w cynnwys ar Instagram
- Iechyd a Lles
- Arlwyo i Fyfyrwyr
- Discovery
- Bywyd Cymdeithasol a Digwyddiadau Myfyrwyr
- Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
- Parth Addysg
- Sgwrsio gyda'n Myfyrwyr
Sut ydw i'n cysylltu ag UM?
Mae ein holl fanylion cyswllt ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gallet ti anfon e-bost at UM trwy info@swansea-union.co.uk.
Gallet ti ein ffonio ar 01792 295 466 neu anfon neges atom ar Facebook, Twitter, Instagram, neu TikTok
Ble gallaf gael gwybod mwy am glybiau a chymdeithasau?
Mae gennym ni dros 50 o dimau chwaraeon gwahanol a 170 o gymdeithasau y gallwch chi ymuno â nhw. Gallwch chi bori neu gofrestru ar gyfer cymdeithas neu glwb chwaraeon ar unrhyw adeg trwy wefan Undeb y Myfyrwyr.
Beth os bydd problemau gennyf?
Ar ryw adeg, mae angen rhywun i siarad ag ef neu gyngor ar bawb – peidiwch byth â meddwl eich bod chi ar eich pen eich hun. Nid yw Canolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr yn rhan o'r Brifysgol ac mae yma ar eich cyfer chi os oes gennych broblemau. Rydym yn rhoi cyngor cyfrinachol am ddim i bob myfyriwr, cysylltwch â ni drwy ffonio 01792 295 466 neu e-bostio advice@swansea-union.co.uk.
Gweithio yn Undeb y Myfyrwyr
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei arwain yn llwyr gan fyfyrwyr. Y llynedd, fe wnaethant wario £ 390,343 ar gyflogau myfyrwyr fel y gallwch ennill arian ac ennill profiad wrth astudio.
Mae ganddyn nhw swyddi ym marrau'r Undeb, eu siopau a hyd yn oed yn eu hadrannau marchnata a digwyddiadau. Gallwch weld a gwneud cais am swyddi gwag yma.
Sut gallaf wirfoddoli yn y Brifysgol?
Mae ein Cydlynydd Llais y Myfyrwyr (Cyfleoedd a Chwaraeon), Thomas, ar gael i gynnig unrhyw gymorth sydd ei angen am gymryd rhan mewn gwirfoddoli yn y Brifysgol. Anfona ebost at thomas.wellar@swansea-union.co.uk.
Beth yw rôl UCM?
UCM yw'r mudiad ehangach i fyfyrwyr – sef Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Maen nhw yno i gynrychioli pob myfyriwr yn y wlad. Rydych hefyd yn aelod o UCM fel aelod o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
Beth yw cerdyn TOTUM UCM? A ble gallaf gael gafael ar un ohonynt?
Cardiau TOTUM UCM yw'r cardiau enwog sy'n cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr – gallwch eu defnyddio mewn siopau ar y stryd fawr ac ar-lein i arbed arian wrth siopa dillad, mynd i'r sinema, prynu tocynnau trên a llawer mwy.
Am £12 yn unig, gallwch fanteisio ar y gostyngiadau hyn am flwyddyn gyfan – byddwch wedi cael gwerth eich arian ar ôl ei ddefnyddio lond llaw o weithiau.
Gallwch archebu eich cerdyn chi neu alw heibio Undeb y Myfyrwyr os hoffech fanteisio ar y gostyngiadau ar unwaith. Gallwch hefyd brynu un ar wefan UCM.