Mae ein gofynion iaith Saesneg wedi'u rhestru fel sgoriau IELTS, ond byddwn yn derbyn Saesneg yn y cymwysterau gadael ysgol canlynol.
Os enilloch y cymhwyster y tu allan i'r cyfnod dilysrwydd, efallai y bydd yn bosib eich derbyn os ydych wedi cyflawni astudiaethau pellach neu waith trwy gyfrwng y Saesneg ers cymryd y prawf. Gweler isod am fanylion llawn:
|
Cymhwyster
|
Gradd Ofynnol
|
Cyfnod Dilysrwydd
|
|
Awstria: Matura/Reifeprüfung
|
Gradd 2 yn yr adrannau ysgrifenedig a llafar
|
10 mlynedd
|
|
Gwlad Belg: Diploma Uwchradd
|
80%
|
10 mlynedd
|
|
Gweriniaeth Tsiec: Maturita
|
2
|
10 mlynedd
|
|
Denmarc: Studentereksamen
|
7
|
10 mlynedd
|
|
Estonia: Riigieksamitunnistus (Arholiad y Wladwriaeth)
|
70%
|
10 mlynedd
|
|
Y Ffindir: Ylioppilastutkintotdistus/Studentexamensbetyg Saesneg A
|
5
|
10 mlynedd
|
|
Ffrainc: Bagloriaeth Ffrainc - Saesneg
|
13
|
10 mlynedd
|
|
Ffrainc: Baccalaureate l'Option Internationale - Saesneg
|
12
|
10 mlynedd
|
|
Yr Almaen: Abitur
|
10
|
10 mlynedd
|
|
Hwngari: Arholiad gadael yr ysgol (Érettségi bizonyítvány / prawf Saesneg Matura)
|
4 |
10 mlynedd |
|
Latvia: Atestats
|
8
|
10 mlynedd
|
|
Lithuania: Brandos Atestatas
|
70%
|
10 mlynedd
|
|
Malta: Tystysgrif Addysg Uwch
|
C
|
10 mlynedd
|
|
Yr Iseldiroedd: Voorbereidend Wetenschappelijk Onderwijs
|
7
|
10 mlynedd
|
|
Norwy: Tystysgrif Gadael Ysgolion Uwchradd Uwch
|
4
|
10 mlynedd
|
|
Gwlad Pwyl: arholiad Saesneg estynedig Matura
|
70%
|
10 mlynedd
|
|
Romania: Diploma du Bacalaureat
|
B2
|
10 mlynedd
|
|
Slofacia: Vysedcenie o Maturitnej Skuse Saesneg
|
2
|
10 mlynedd
|
|
Sweden: Fullständig Slutbetyg från Gymnasieskolan
|
12
|
10 mlynedd
|
|
Y Swistir: Maturitatzeugnis Certificat de Maturité Attestato de Maturità
|
5
|
10 mlynedd
|
BETH OS YW FY MHRAWF NEU GYMHWYSTER Y TU HWNT I’R CYFNOD DILYSRWYDD?
Rhaid i’r holl brofion a chymwysterau fod wedi eu hennill o fewn nifer penodol o flynyddoedd cyn dechrau eich cwrs gyda ni. Os ydych yn meddu ar un o’r profion neu gymwysterau cymeradwy a restrir uchod sy’n bodloni gofynion safonol y rhaglen, ond enillwyd y tu hwnt i’r cyfnod dilysrwydd, gall fod yn bosib eich derbyn o hyd os ydych wedi parhau i astudio neu weithio drwy gyfrwng y Saesneg ers sefyll y prawf.
Er enghraifft:
- Os ydych wedi cwblhau blwyddyn astudio 1 yn llwyddiannus ar lefel uwchradd, israddedig neu ôl-raddedig yn Saesneg yn ystod y 10 mlynedd ers dyddiad dechrau’r rhaglen – darparwch lythyr, trawsgrifiad neu dystysgrif gan yr ysgol neu goleg sy’n cadarnhau bod yr astudio drwy gyfrwng y Saesneg;
- Os ydych wedi gweithio mewn Gwlad sy’n Siarad Saesneg yn Bennaf am gyfnod sylweddol o amser ers cwblhau eich prawf neu gymhwyster Saesneg cymeradwy – darparwch CV manwl sy’n nodi natur y gwaith;
-
Os ydych wedi gweithio drwy gyfrwng y Saesneg mewn unrhyw wlad arall am gryn dipyn o amser ers cwblhau eich cymhwyster Iaith Saesneg cymeradwy, efallai y bydd yn bosibl eich eithrio rhag sefyll prawf Saesneg.
Rhowch eirda i ni gan eich cyflogwr yn cadarnhau eich bod wedi gweithio'n ffurfiol yn Saesneg. Rhaid i eirda roi enghreifftiau penodol o sut rydych chi'n defnyddio pedair elfen yr Iaith Saesneg (Darllen, Ysgrifennu, Gwrando a Siarad) yn eich gweithle bob dydd.Dylai eich canolwr fod yn rheolwr llinell i chi neu'n gyfrifol am y cwmni/sefydliad. Ni allwn dderbyn geirdaon gan ffrindiau nac aelodau o'r teulu. Os ydych wedi gweithio mewn sawl rôl ers cwblhau eich cymhwyster Iaith Saesneg derbyniol, efallai y gofynnir i chi ddarparu geirda gan bob un o'r sefydliadau lle rydych chi wedi gweithio.Dylai'r geirdaon gynnwys stamp cyflogwr a chyfeiriad e-bost swyddogol cyflogwr. Ni dderbynnir geirdaon o gyfrifon Hotmail neu Gmail y canolwr.
Caiff geirdaon eu hasesu fesul achos. Nid yw darparu geirda yn gwarantu eithriad o brawf Saesneg.
English-language-employer-reference-form-welsh (Ffurflen Adroddiad Canolwr Iaith Saesneg i Gyflogwyr)