Alaina Turner
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- PhD Troseddeg
Ym mha gyfadran ydych chi’n gweithio?
Rwy’n gweithio yn yr Adran Droseddeg yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.
Beth oedd eich rhesymau dros astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Penderfynais i ddychwelyd i faes addysg ar ddechrau fy 40au ar ôl treulio 20 mlynedd yn niwydiant TG. Gwnes i loywi fy addysg drwy gwrs mynediad yng ngholeg addysg bellach lleol a gwneud cais i
Brifysgol Abertawe i astudio Troseddeg.
Dechreuais i ar fy antur yn yr Adran Droseddeg ym mis Medi 2015, gan gwblhau BSc yn haf 2018 lle cefais radd dosbarth cyntaf yn ogystal â thair gwobr am y perfformiad gorau, y marc cyffredinol
uchaf am draethawd estynedig, a rhagoriaeth mewn ymchwil â phwyslais ar y plentyn. Roedd y ddwy wobr olaf yn deillio o’m traethawd estynedig yn fy mlwyddyn olaf, a wnaeth helpu i ddiffinio fy
niddordeb mewn ymchwil i faes llywio bywydau plant. Wrth i mi gwblhau MA mewn Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg yn yr un adran, gwnes i gais llwyddiannus i gael lle wedi’i ariannu’n
llawn am bedair blynedd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe.
Beth yw testun eich ymchwil?
Mae fy ngwaith ymchwil yn archwilio niweidiau cymdeithasol polisïau yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gan ystyried y strwythurau sy’n cael eu datblygu i gefnogi plant a all achosi
niweidiau anfwriadol megis eu gwneud yn gaeth i sefydliadau a chael eu denu at fyd troseddu.
Beth a ysgogodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Mae gwneud graddau israddedig ac ôl-raddedig mewn Troseddeg, lle roedd cyfiawnder ieuenctid wrth wraidd fy astudiaethau, a chael fy magu mewn ardal ddifreintiedig yn Abertawe, lle roedd cyfradd
uchel o droseddau, wedi ennyn fy niddordeb yn y sbardunau sy’n mynd â rhai plant ar lwybr troseddol a all lywio gweddill eu bywydau.
Beth hoffech i’ch gwaith ymchwil ei gyflawni?
Gobeithio y bydd fy ymchwil, lle byddaf yn gweithio’n agos gyda phlant, darparwyr gwasanaethau a’r rhai sy’n llunio polisïau, yn meithrin dealltwriaeth newydd o’r ffyrdd y gall niweidiau cudd
effeithio ar fywydau plant a newid y bywydau hynny.
Beth yw prif fanteision gwneud eich gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?
Mae llawer o bethau sy’n sicrhau bod gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn brofiad unigryw a gwerthfawr. Yn gyntaf, mae’r Adran Droseddeg yn ystyried bod pob un o’i myfyrwyr yn rhan o’r
tîm. O gychwyn cyntaf eich gradd israddedig, rydych chi’n teimlo bod y staff academaidd yn eich cefnogi ar bob cam. Yn ail, mae’r tîm ymchwil ôl-raddedig yn cael cefnogaeth ddiwyro gan Undeb y
Myfyrwyr, ac yn olaf mae staff academaidd ac ategol y tîm ymchwil ôl-raddedig ehangach yn deall pwysigrwydd ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd, gan eu harwain a’u cefnogi, a gwneud popeth posib
i sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau ac yn cyflawni’r ymchwil orau y gallant.
Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Abertawe, rwyf wedi gweithio’n agos gydag aelodau’r Adran Droseddeg a’u cefnogi lle bynnag y bo modd, yn yr un ffordd ag y maent wedi fy nghefnogi innau. Rwyf
wedi cael profiad o gyflwyno diwrnodau agored i israddedigion ac ôl-raddedigion, addysgu seminarau i israddedigion, cynrychioli’r Brifysgol drwy rôl fel llysgennad a chefnogi fy nghyd-fyfyrwyr
drwy swyddi’n cynrychioli Undeb y Myfyrwyr. Rwy’n gobeithio y bydd fy mherthynas â’r Brifysgol yn parhau drwy gydol fy nghwrs PhD a’r tu hwnt. Mae addysg yn rhodd arbennig ac rwy’n teimlo y
byddai’n fraint i’w chyflwyno i fyfyrwyr y dyfodol.