Haley Christian
- Gwlad:
- Unol Daleithiau America
- Cwrs:
- MA Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
Dewisais Abertawe oherwydd mae'n fwy costeffeithiol i mi astudio y tu allan i'r Unol Daleithiau, ac roedd gan Abertawe yr union raglen yr oeddwn i'n chwilio amdani. Wrth wneud ychydig o waith ymchwil, deuthum i wybod bod adran y cyfryngau yn dda iawn, ac roedd dewis dod i Brifysgol Abertawe yn brofiad cyffrous iawn i mi.
Dw i’n dod o Sarasota sydd yn Florida yn yr Unol Daleithiau. Dw i’n dilyn rhaglen Meistr mewn Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus. Ar hyn o bryd, dw i’n mwynhau byw dramor a chanolbwyntio ar fy astudiaethau.
Dw i’n mwynhau'r ffaith bod yna gyrsiau sy'n addysgu am lawer o wahanol feysydd o'r cyfryngau, fel y cyfryngau digidol a chynhyrchu fideo. Mae'n ddefnyddiol dysgu am yr holl fathau gwahanol yn hytrach na dysgu un dull yn unig. Dw i’n meddwl bod y cwrs yn hyblyg iawn. Mae llawer o ddewisiadau ar gyfer y modiwlau dewisol felly mae pob myfyriwr yn gallu dewis yr union beth y mae ganddo ddiddordeb ynddo. Fy hoff fodiwlau hyd yn hyn yw Cyfathrebu Gweledol a Dylunio'r Cyfryngau.
Dw i wir yn mwynhau fy narlithoedd. Maen nhw'n ddifyr, maen nhw'n gwneud y profiad o ddysgu'r pwnc yn hwyliog, ac yn esbonio beth maen nhw'n ei ddysgu'n dda iawn. Maen nhw i gyd wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi bod yno i ateb unrhyw gwestiynau oedd gen i. Dw i wedi dysgu llawer o sgiliau gwerthfawr fel sut i gynllunio ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus a sut i ddefnyddio Adobe Photoshop ac Illustrator. Bydd hyn yn fy helpu yn fy ngyrfa pan fyddaf yn cymhwyso'r sgiliau hyn i swydd yn y dyfodol.
Fy nhri hoff beth am fy nghwrs yw'r darlithwyr, y sgiliau dw i’n eu dysgu, a'r bobl dw i wedi'u cyfarfod sy'n astudio'r cwrs gyda mi.
Fy nhri hoff beth am Abertawe yw canol y ddinas, bod modd cerdded drwy'r dref/ddinas, a pha mor gyfeillgar yw’r bobl leol.
Mae Prifysgol Abertawe yn lle anhygoel ac yn rhoi popeth sydd ei angen arnat i astudio'r pwnc o’th ddewis a'i droi’n yrfa rwyt ti’n ei charu yn y dyfodol. Mae'n lle hardd ac mae’n hawdd crwydro o gwmpas y ddinas. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un sy'n chwilio am le i astudio, yn enwedig myfyrwyr rhyngwladol sy'n ystyried symud i rywle gwahanol.