Millie Parks
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- MRes Biowyddorau
Ym mha gyfadran ydych chi’n gweithio?
Rwy'n gweithio yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Beth yw testun eich gwaith ymchwil?
Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar atebion go iawn i'r problemau sy'n cael eu hachosi gan rwystrau mewn afonydd, sef dirywiad cynefinoedd a rhaniadau. Y nod trosgynnol yw helpu rhanddeiliaid afonydd i greu afonydd bioamrywiol sy'n llifo'n rhydd, a hynny mewn modd mor hawdd â phosib.
Beth a ysgogodd eich diddordeb yn y maes hwn?
Ar ôl cael fy magu mewn ardal wledig iawn ac yn yr awyr agored yn bennaf, roedd gennyf chwilfrydedd am fyd natur o'm plentyndod a wnaeth barhau pan oeddwn yn oedolyn wrth i mi feithrin diddordeb brwd yn adnoddau'r Ddaear ac ecosystemau dilychwin. Ar y trywydd hwn, gwnes i ddarganfod ein bod wrthi'n dinistrio ein byd dilychwin at ddibenion trachwant syml a thwf ymddangosiadol gyflymach gyflymach. Mae anghrediniaeth ynghylch y diffyg gweithredu presennol wedi fy ysgogi i gymryd rhan yn y sgwrs am ddiogelu ac adfer yr amgylchedd.
Sut daethoch i astudio yn Abertawe?
Gwnaeth y diddordeb hwn arwain at radd mewn Rheoli Adnoddau Amgylcheddol, rhai cyfleoedd gwaith anhygoel dramor a rôl fel ymchwilydd gyda Marine Scotland. Yn yr un modd â phopeth arall, gwnaeth Covid-19 effeithio'n wael iawn ar y sector amgylcheddol, ond roeddwn yn ddigon ffodus i gael cyfle i ddilyn gradd meistr a ariennir gan KESS II yma yn Abertawe, a fydd yn creu newid gwirioneddol.
Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?
Rwy'n gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn cael ei defnyddio'n ymarferol mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Drwy brofi paramedrau, rhagdybiaethau a modelau gwahanol, bydd fy ngwaith ymchwil yn ei gwneud hi'n haws i'n hafonydd lifo'n naturiol eto, gan gadw eu hecosystemau unigryw. Yn y pen draw, rwy'n benderfynol o wella cyflwr y Ddaear erbyn i mi ymadael â hi. Fel y nododd Robin Wall Kimmerer yn beniog iawn, “Gall gwyddoniaeth fod yn ffordd o agosáu at rywogaethau eraill a meithrin parch tuag atynt. Nid wyf erioed wedi cwrdd ag ecolegydd a ddaeth i'r maes oherwydd brwdfrydedd dros ddata na rhyfeddod at fesuriad tebygolrwydd. Mae ymwneud â gwyddoniaeth yn llawn gwyleidd-dra a pharch yn ffordd bwerus o uniaethu â byd natur.”
Beth yw'r pethau gorau am wneud eich gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?
Rwyf wedi mwynhau'n fawr y ffaith fy mod wedi cael cymryd rhan mewn cyfleoedd i ymchwilio a chydweithio y tu allan i'm gradd. Ar ben hynny, mae'n hyfryd cael byw yn ne Cymru, a byddaf yn gweld eisiau hynny pan ddaw'r amser i mi symud ymlaen.
Beth yw'ch cynlluniau at y dyfodol?
Mae'r sector yn newid o hyd ac rwy'n meddwl y bydd hyn yn arwain at yrfa gyffrous. Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau pendant heblaw am ddal i weithio ar brosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'r byd, gan mai dyna sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i mi.