Sean Holm
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- PhD Astudiaethau Meddygaeth a Gofal Iechyd
Beth wnaethoch chi cyn eich doethuriaeth?
Dechreuodd fy nhaith ym maes addysg uwch gyda gradd israddedig mewn biocemeg ym Mhrifysgol Abertawe, lle gwnes i fagu sgiliau labordy allweddol a meithrin fy nealltwriaeth o'r prosesau biocemegol sy'n rheoli ein byd biolegol.
Beth yw eich testun ymchwil?
Imiwnolegydd ydwyf, sy’n golygu fy mod yn astudio’r system imiwnedd. Yn benodol, rwy’n canolbwyntio ar ymatebion y system imiwnedd yn ystod beichiogrwydd ac ar fore oes.
Pam y gwnaethoch chi benderfynu astudio ar gyfer doethuriaeth?
Un o agweddau mwyaf pleserus fy astudiaethau israddedig oedd y cyfleoedd i ymchwilio'n annibynnol i bynciau a wnaeth fy arwain yn wreiddiol at ystyried gyrfa ym maes ymchwil yn y dyfodol. Rhwng yr ail flwyddyn a'r drydedd flwyddyn, gwnes i gwblhau lleoliad gwaith gyda grŵp labordy Thornton, lle gwnes i feithrin gwerthfawrogiad go iawn o ymchwil yn y labordy. Yn dilyn hynny, gwnes i brosiect fy nhraethawd hir gyda'r un grŵp. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio dan Dr Nick Jones, gan ymchwilio i fetabolaeth glwtamin mewn ymatebion cynnar celloedd T, a phenderfynais i fy mod i'n bendant am ddilyn gyrfa ym maes ymchwil.
Pam y penderfynoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Yn gyntaf, cefais i brofiad cadarnhaol iawn yn ystod fy astudiaethau israddedig yma.
Yn ail, roedd yn gyffrous bod yn rhan o'r grŵp roeddwn i'n gweithio gydag ef. Cafodd y gwaith a wnes i gyda’r grŵp yn ystod fy nhraethawd hir ei gyhoeddi fel rhan o bapur yn Nature Communications hyd yn oed.
Yn olaf, roedd y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil wedi canmol Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe'n fawr, gan ei gwneud yn lle atyniadol i astudio ynddo.
Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu?
Mae ymchwil ôl-raddedig yn llawn heriau. Mae modd rhagweld rhai ohonyn nhw ond mae eraill yn gwbl anrhagweladwy. Serch hynny, mae gradd ymchwil yn y bôn yn radd mewn datrys problemau, felly mae'n rhaid disgwyl yr annisgwyl. Gall ymchwil fod yn faich trwm ar eich amser, felly mae cynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn gallu bod yn anodd. Fodd bynnag, yn ddiau, yr her fwyaf y gwnes i ei hwynebu oedd effaith COVID. O ganlyniad i'r heriau dilynol, cefais i fy ngorfodi i wneud llawer o newidiadau i'm hymagweddau, yn ogystal â'm hysgogi i dyfu a datblygu mewn meysydd newydd megis addysgu fy hun sut i godio.
Sut rydych chi wedi elwa o wneud doethuriaeth?
Rwyf wedi meithrin amrywiaeth eang o sgiliau drwy wneud doethuriaeth. Gan gynnwys…
- Llunio repertoire o dechnegau labordy.
- Gallu ysgrifennu a chyflwyno i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Sut i feithrin rhwydweithiau a chydweithredu â phobl o bedwar ban byd.
- Rheoli amser a chynllunio prosiectau.
Po fwyaf o gyfleoedd rydych chi'n achub arnyn nhw ochr yn ochr â'ch astudiaethau, mwyaf y byddwch chi'n dysgu ac yn datblygu.
Sut bydd eich cymhwyster yn helpu eich gyrfa?
Mae doethuriaeth yn fan cychwyn ardderchog i lansio gyrfa yn y gwyddorau bywyd. Mae galw mawr gan gyflogwyr ym maes gwyddorau bywyd am y sgiliau labordy ac ysgrifennu sy'n cael eu magu yn ystod doethuriaeth ac maen nhw'n hollbwysig i yrfa academaidd. Ar ben hynny, mae'r amrywiaeth eang o sgiliau meddal rwyf wedi eu magu yn ystod fy noethuriaeth yn addas i amrywiaeth eang o swyddi.
Beth oedd yr uchafbwynt i chi?
Yn bendant, cefais i deimlad o gyffro bob tro y gwnes i ddarganfyddiad bach, datrys problem a oedd wedi peri penbleth i mi neu weld rhywbeth newydd a diddorol yn fy nghanlyniadau.
Ond yr uchafbwynt go iawn i mi oedd cymryd rhan mewn cynadleddau a chyflwyno fy ngwaith i grŵp o unigolion o'r un bryd a thrafod gorwelion yr ymchwil sydd i ddod.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sy'n ystyried gwneud astudiaethau ôl-raddedig?
Byddwn yn argymell cymryd rhan mewn cynifer o bethau â phosib yn ystod eich astudiaethau. Ewch i gynadleddau; cyflwynwch thesis tair munud; cymerwch ran mewn addysgu a gwaith allgymorth.