Llongyfarchiadau!
Graddio yw i fyfyrwyr, eu gwesteion a staff ddod ynghyd i gydnabod cyflawniadau ein myfyrwyr, i'w llongyfarch a nodi diwedd eu hastudiaethau a dechrau pennod newydd.
Bydd myfyrwyr y disgwylir iddynt gwblhau eu rhaglen astudio’n cael gwahoddiad i fod yn bresennol.
O baratoi ar gyfer y diwrnod mawr i ymuno â’n cymuned cyn-fyfyrwyr, mae popeth ar gael yma i wneud eich dathliadau graddio yn gofiadwy.
Byddwn ni’n eich tywys chi bob cam o’r daith ac, os oes gennych chi gwestiynau, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch graddio neu cysylltwch â’r tîm graddio.