Sgip i brif cynnwys
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Y Brifysgol
  3. Astudio
  4. Graddio
  5. Cwestiynau Cyffredin
  • Astudio
    • Astudio
      Students studying in Singleton Park campus library

      Dechreuwch eich taith yma

      Astudiwch gyda ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid i'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Prosbectws Israddedig
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Storïau Myfyrwyr
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
    • Cydweithredwch â ni
      • Datblygu eich prosiectau
      • Manteisio ar wybodaeth ein hymgynghorwyr
      • Cyfleoedd Cyllid YDA
    • Recriwtio ein Doniau
      • Recriwtio ein Myfyrwyr a'n Graddedigion
      • Cwrdd â’n myfyrwyr
      • Hysbysebu eich swyddi gwag
    • Datblygu eich Gweithlu
      • Gweld ein cyrsiau
    • Defnyddio ein Gwasanaethau Masnachol
      • Gofyn am gymorth gyda phrosiect
      • Hysbysebu eich sefydliad
      • Dod yn gyflenwr
    • Llogi ein Cyfleusterau
      • Cael mynediad at ein cyfleusterau ymchwil
      • Cynnal digwyddiad
    • Gweithio gyda ni
      • Ymuno â’n rhwydwaith cydweithredol
      • Cysylltu â’n tîm ymgysylltu â busnesau
      • Cadw mewn cysylltiad
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Y Brifysgol
  3. Astudio
  4. Graddio
  5. Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Tudalennau cysylltiedig
  • Dyddiadau Ceremoniaid Yn Y Dyfodol
  • Amserlen - Dosbarth 2025
  • Paratoi ar gyfer Graddio
  • Rhestr Wirio
  • Eich Diwrnod Graddio
  • Ar ôl Eich Graddio
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Sut i gysylltu â'r Swyddfa Raddio
  • Gwybodaeth ar gyfer Staff y Brifysgol
  • Dyfarniadau Anrhydeddus
  • Llyfrynnau Graddio

Archebu eich Lle

Pryd y gallaf archebu fy lle yn y cynulliad?

Byddem yn anfon e-bost atoch pan fydd y system archebu ar-lein yn agor, fel arfer oddeutu 3 mis cyn y cynulliadau.

Anfonir e-byst at eich cyfrif e-bost Prifysgol ac unrhyw e-bost personol sydd gennym ar eich cyfrif mewnrwyd.

Dydw i ddim yn dod â gwesteion i'r cynulliad; a oes angen i mi gwblhau'r broses gwneud cais o hyd?

Oes, mae'n hanfodol eich bod yn cwblhau'r broses gwneud cais i wneud yn siwr bod eich sedd wedi'i chadw ar eich cyfer.

Ni fyddaf yn mynychu'r cynulliad - a oes angen i mi gwblhau'r broses gwneud cais o hyd?

Oes, mae angen i chi gwblhau'r broses gwneud cais o hyd, gan fod angen i ni wybod faint o fyfyrwyr a fydd yn mynychu.

Rydw i'n dal i aros am fy nghanlyniadau. A ddylwn aros hyd nes eu bod wedi'u cyhoeddi cyn cwblhau'r broses gwneud cais?

Na, dylech gwblhau'r broses gwneud cais cyn gynted â phosib, i wneud yn siwr bod tocynnau'n cael eu dyrannu i chi.

Ni fedrwn warantu y bydd tocynnau ar gael o hyd os ydych yn gwneud cais ar ôl y dyddiad cau ar gyfer archebu.

Bydd eich presenoldeb yn y seremoni raddio'n cael ei gadarnhau ar ôl i'ch dyfarniad gael ei gymeradwyo yn y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau. Os na fyddwch yn gymwys mwyach i fod yn bresennol oherwydd canlyniad eich asesiadau, bydd eich gwahoddiad yn cael ei dynnu yn ôl a byddwch yn cael gwybod drwy e-bost.

Ydy hi’n bosib newid diwrnod/amser fy nghynulliad?

Na, bydd cynulliad yn cael ei drefnu i bob myfyriwr yn seiliedig ar eu hadran gartref. Bydd yr egwyddor hon yn weithredol ar draws pob Ysgol.

Os nad ydych yn siŵr pa adran yw eich adran gartref cysylltwch â’ch Ysgol yn y lle cyntaf.

Tocynnau

Sut gallaf archebu tocynnau gwesteion?

Byddwch yn derbyn e-bost am docynnau gwesteion a sut i'w harchebu ddechrau mis Gorffennaf.  Bydd pob myfyriwr yn gallu dewis uchafswm o ddau docyn gwestai am ddim trwy'r system archebu.

Nid oes angen tocyn ar y myfyrwyr sy'n graddio i fynychu eu seremoni a byddant yn derbyn cerdyn cofrestru wrth iddynt gofrestru yn yr LC2 yn lle.

Bydd myfyrwyr yn derbyn eu tocynnau gwesteion yn electronig dros e-bost, a byddant yn cynnwys côd QR unigryw y bydd angen ei sganio wrth gyrraedd Arena Abertawe.

A fydd yna docynnau ychwanegol ar gael?

Wrth i chi dderbyn eich e-bost ym mis Gorffennaf, byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi a oes rhagor o docynnau, ar ben y ddau docyn gwestai am ddim y gallwch eu dewis, ar gael i'w prynu ar gyfer eich seremoni. 

Bydd tocynnau gwesteion ychwanegol yn costio £25 yr un a bydd argaeledd yn ddibynnol ar nifer y myfyrwyr sy'n mynychu pob seremoni a chapasiti'r lleoliad.

I westeion nad oes modd iddynt fynychu, bydd seremonïau'n cael eu gwe-ddarlledu'n fyw trwy'r dudalen we ganlynol: Graddio - Prifysgol Abertawe

Sut byddaf yn derbyn fy nhocynnau?

Mae tocynnau gwesteion yn electronig a byddant yn cael eu hanfon at y myfyrwyr ar ôl eu harchebu.

Nid oes angen tocyn ar y myfyrwyr sy'n graddio i fynychu eu seremoni ond bydd angen iddynt gofrestru ar y diwrnod er mwyn derbyn eu cerdyn cofrestru.

A allaf ddod â phlant i'r cynulliad?

Rydym yn cydnabod bod seremonïau graddio'n achlysuron i'r teulu ac mae croeso i blant ddod.  Serch hynny, rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn.  Mae'r cynulliadau'n para tuag awr a phymtheng munud felly efallai nad ydynt yn addas i blant ifanc iawn.  I barchu gwesteion eraill, rydym yn gofyn i chi fynd â phlant allan os ydynt yn cynhyrfu yn ystod y cynulliad fel nad ydynt yn tarfu ar y seremoni a gwesteion eraill.   Rydym yn cadw'r hawl i ofyn i blant (neu oedolion) adael yr awditoriwm yn ystod y seremoni os ydynt yn gwneud sŵn diangen neu'n tarfu ar y seremoni neu westeion eraill.

Dylai plant dan 2 oed eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt.

Rhaid i blant 2 oed ac yn hŷn gael tocyn i gael mynediad i'r cynulliad. 

Nid oes cyfleusterau gofal plant ar gael.

A oes unrhyw le ar gael ar gyfer cadeiriau olwyn?

Oes, ond sylwer mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael i gadeiriau olwyn ac mae'n rhaid archebu llefydd o flaen llaw.

Os oes gennych chi neu'ch gwesteion unrhyw ofynion arbennig, cysylltwch â gradaccessability@swansea.ac.uk

Gwisg

A oes cod gwisg?

Rhaid i'r holl fyfyrwyr sy'n graddio wisgo gwisg academaidd.

Y cyflenwr swyddogol o'r gwisgoedd academaidd priodol yw Ede and Ravenscroft.

Rydym hefyd yn argymell bod darpar raddedigion yn gwisgo crys neu flows, i alluogi cwfl y gwn i gael ei atodi i un o’r botymau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n adran Gwisg Academaidd.

Does dim cod wisg ffurfiol i westeion. Serch hynny, gan fod y cynulliad yn ddigwyddiad ffurfiol, rydym yn argymell bod gwesteion yn gwisgo dillad smart.

Ble ydw i'n archebu fy ngwisg graddio? Faint y bydd yn ei gostio?

Chi sy'n gyfrifol am archebu eich gwisg eich hun.

Y cyflenwr swyddogol o'r gwisgoedd academaidd priodol yw Ede and Ravenscroft.

Mae'r holl gynau graddio yn costio £52 i'w llogi os cânt eu harchebu cyn y seremonïau. Bydd cost llogi gŵn yn cynyddu ar y diwrnod.

Ar y Dydd

Faint o'r gloch bydd y cynulliadau'n dechrau ac yn gorffen?

Bydd yr holl gynulliadau yn dechrau am 10.00am, 1.30pm, a 4.30pm. Ewch i amserlen am gwybodaeth penodol.

Bydd angen i chi gyrraedd tuag awr a hanner cyn i'ch cynulliad ddechrau i wneud yn siŵr bod gennych ddigon o amser i gasglu eich tocynnau a'ch gŵn a chael tynnu eich lluniau swyddogol.

Sylwer bod y stiwdios ffotograffiaeth ar agor cyn neu ar ôl eich cynulliad ac maen nhw yn yr LC.

Bydd pob cynulliad yn para oddeutu 1 awr 15 munud. 

Ble mae'r lleoliad a sut ydw i'n cyrraedd yno?

Bydd Graddio yn cael eu cynnal yn Arena Abertawe, Ffordd Ystumllwynarth, Bae Copr, Abertawe SA1 3BX.

Gwelwch Trefniadau Teithio a Pharcio ar gyfer Graddio am fwy o wybodaeth.

Beth sydd angen i mi wneud ar y dydd?

Ar ddiwrnod eich Cynulliad bydd angen i chi fynd i'r LC i gofrestru, cael rhif eich sedd, a chasglu'ch eich cerdyn cofrestru.  Bydd angen i chi gasglu eich gynau ac efallai dewis cael lluniau swyddogol wedi'u tynnu.

Sylwer y gallai fod ciw, felly cynghorir eich bod yn cyrraedd o leiaf awr a hanner cyn amser dechrau eich Cynulliad.

Sylwer bod rhaid i chi a'ch gwesteion gymryd eu seddi yn y Neuadd Fawr heb fod yn hwyrach na 15 munud cyn dechrau'r cynulliad. Gall gyrraedd yn hwyr effeithio ar allu eich gwesteion i gymryd eich seddi a'ch gallu i gymryd rhan yn y cynulliad. Mae'r hawl gennym i wrthod mynediad i'r cynulliad i unrhyw westeion sy'n cyrraedd yn hwyr, hyd yn oed os oes tocyn gyda nhw.

Bydd y drysau i'r neuadd yn agor 45 munud cyn dechrau'r cynulliad.

Ble y byddaf yn eistedd yn y cynulliad? A fyddaf yn eistedd gyda fy ngwesteion?

Byddwch yn eistedd gyda darpar raddedigion eraill ym mlaen yr awditoriwm, yn nhrefn y wyddor ac yn ôl trefn y dyfarniad a'r cwrs.

Cyhoeddir pob dyfarniad, wedi'i ddilyn gan enwau'r holl ddarpar raddedigion sy'n mynychu.

Wrth i'ch enw gael ei gyhoeddi, byddwch yn cerdded ar draws y llwyfan i godi eich cap i’r Canghellor neu'r Dirprwy Ganghellor.  

Bydd y Marsialiaid ar gael i'ch cynorthwyo ar y dydd, i wneud yn siwr eich bod yn cael eich cyflwyno'n gywir.

Bydd gwesteion yn eistedd mewn man ar wahân y tu ôl i'r darpar raddedigion. 

A fedraf ddod â chamera a chamera fideo i'r cynulliad?

Cewch, ond byddwch yn ystyriol o'r rhai hynny sy'n eistedd o'ch cwmpas os ydych yn tynnu lluniau neu'n ffilmio yn ystod y digwyddiad.

Bydd ffotograffau proffesiynol ar gael i'w prynu ar ôl y cynulliad - am ragor o fanylion, ewch i'n adran Lluniau

Amrywiol

Pryd y byddaf yn derbyn fy nhystysgrif?

Y polisi yw postio'r dystysgrif i'w gyfeiriad cartref fel y'i nodir ar y Proffil Myfyriwr o fewn 8 wythnos ar ôl ei dyfarnu. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod y manylion cyswllt cywir ar y fewnrwyd. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich tystysgrif, neu os nad ydych wedi derbyn eich tystysgrif o fewn tri mis i gadarnhau'r dyfarniad, e-bostiwch degreecertificates@swansea.ac.uk 

Mae angen llythyr cefnogi fisa arnaf i fi /fy nheulu fynychu'r cynulliad - beth y dylwn ei wneud?

Ewch i'n adran Llythyron cefnogi Fisâu Rhyngwladol am ragor o fanylion.

Sut y gallaf gysylltu â'r Swyddfa Raddio?

Gweler ein tudalen Cysylltwch â Ni.

 

Force Majeure

Os bydd angen i Brifysgol Abertawe ganslo, newid neu aildrefnu seremonïau graddio, bydd y Brifysgol yn ymdrechu i hysbysu myfyrwyr am hyn gan roi'r rhybudd mwyaf posib. Os caiff y seremoni raddio ei chanslo, ei gohirio neu ei haildrefnu (gan gynnwys newid y dyddiad, yr amser a/neu'r lleoliad) o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth Prifysgol Abertawe, gan gynnwys (er nad yw hon yn rhestr gyflawn) tân, ffrwydrad, gweithred derfysgaidd (neu fygythiad o weithred derfysgaidd), gweithred gan Dduw, pandemig, profedigaeth genedlaethol (sef unrhyw aelod o'r teulu brenhinol), cofrestriadau myfyrwyr yn mynd y tu hwnt i'n darpariaeth neu o ganlyniad i unrhyw weithredu diwydiannol, anghydfod sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe, neu unrhyw ddigwyddiad neu weithred arall y tu hwnt i reolaeth Prifysgol Abertawe, ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golledion uniongyrchol neu a geir fel arall ymhlith darpar-raddedigion neu eu gwesteion.

  • Dyddiadau Ceremoniaid Yn Y Dyfodol
  • Amserlen - Dosbarth 2025
  • Paratoi ar gyfer Graddio
  • Rhestr Wirio
  • Eich Diwrnod Graddio
  • Ar ôl Eich Graddio
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Sut i gysylltu â'r Swyddfa Raddio
  • Gwybodaeth ar gyfer Staff y Brifysgol
  • Dyfarniadau Anrhydeddus
  • Llyfrynnau Graddio
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342