Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i Nigel Short, Cadeirydd Clwb Rygbi'r Scarlets a chyfarwyddwr a rhanddeiliad yn y cwmni wisgi arobryn o Gymru, Penderyn.
Cyflwynwyd y dyfarniad i Mr Short heddiw (19 Rhagfyr 2018) yn seremoni raddio Coleg Peirianneg y Brifysgol.
Cafodd Nigel Short ei eni a'i fagu yng Nghwm Cynon, ac mae wedi dod yn un o ddynion busnes mwyaf llwyddiannus Cymru. Mae wedi bod yn rhan o nifer o gwmnïau llwyddiannus, ond ei swydd hiraf hyd yn hyn yw gyda Penderyn.
Addysgwyd Nigel yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Aberdâr. Yn arwydd cynnar o'i ymdrechion yn y dyfodol, chwaraeodd Nigel safle prop yn nhîm yr ysgol, ac aeth i ddau dreial terfynol ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Gadawodd yr ysgol yn 16 mlwydd oed ac ymuno â busnes y teulu gan dreulio 25 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant dur ac yn ymgymryd â logisteg soffistigedig ar y safle a chyflogi 1,500 o bobl mewn chwe gwlad wahanol.
Pan werthwyd busnes y teulu i Brambles Ltd, bu Nigel yn cynnal y gweithrediadau yn Ewrop a De America tan 2002 pan ddechreuodd gyda Penderyn. Ers hynny, mae Penderyn wedi dod yn frand eiconig yng Nghymru ac yn llwyddiant mawr.
Mae ei ddiddordeb mewn rygbi wedi bod yn amlwg erioed a dros yr wyth mlynedd diwethaf mae Nigel wedi mwynhau ei rôl yn Gadeirydd yng nghlwb y Scarlets, gan arwain y clwb i nifer o gemau ail gyfle a rowndiau cynderfynol, yn ogystal ag ennill cynghrair y Pro 12 yn 2017. Bu hefyd yn hyfforddi tîm iau Hendy-gwyn ar Daf am saith mlynedd.
Mae wedi bod mewn swyddi cyfarwyddwr mewn sawl busnes drwy gydol ei yrfa yn Short Bros Energy Ltd, Short Bros Homes Ltd a Hygrove Homes Ltd.
Mae hefyd yn cynnal fferm cig oen a chig eidion organig 400 erw yn Sir Gaerfyrddin.
Wrth dderbyn ei ddyfarniad, dywedodd Nigel Short: "Mae'n anrhydedd ac yn bleser mawr ennill dyfarniad DLitt. Rwyf wedi byw yn Abertawe am y 36 mlynedd diwethaf, yn amser llawn ac yn rhan-amser, ac ar ôl gweld fy ngwraig a'm merch yn graddio o Brifysgol Abertawe, mae gan y lle fan arbennig yn fy nghalon.
Rwy'n edrych ymlaen at feithrin cysylltiadau cryfach â'r Brifysgol yn y dyfodol, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sy'n rhan ohoni. Mae Prifysgol Abertawe'n rhan annatod o Abertawe a'i hamgylchiadau unigryw – mae wir yn fan arbennig."