Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i Jazz Carlin, enillydd medalau aur mewn nofio.
Cyflwynwyd y dyfarniad er anrhydedd i Jazz Carlin heddiw (27 Gorffennaf) yn ystod seremoni raddio Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Treuliodd Jazz wyth mlynedd yn ymarfer ym Mhwll Cenedlaethol Cymru, Abertawe, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n cynrychioli Prifysgol Abertawe, cyn symud i Brifysgol Caerfaddon yn y cyfnod cyn Gemau Olympaidd Rio, gan gystadlu'n bennaf mewn gweithgareddau nofio rhydd sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol.
Cynrychiolodd Gymru am y tro cyntaf pan oedd yn 15 mlwydd oed yn unig yng Ngemau'r Gymanwlad ym Melbourne, Awstralia yn 2006. Aeth ymlaen i gynrychioli Cymru yn Delhi yn 2010, yn Glasgow yn 2014 ac ar y Traeth Aur yn Awstralia yn 2018, lle cafodd y fraint o gludo'r faner.
Mae Jazz wedi ennill llawer o fedalau dros Gymru ac yn 2010 hi oedd y nofiwr benywaidd cyntaf o Gymru i ennill dwy fedal (arian ac efydd) yng Ngemau'r Gymanwlad. Yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, lle enillodd fedal aur yn y digwyddiad nofio rhydd 800 metr a medal arian yn y digwyddiad 400 metr, hi oedd y nofiwr benywaidd cyntaf o Gymru i fod yn bencampwr y Gymanwlad ers Pat Beavan yng Ngemau'r Gymanwlad ym 1974.
Ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd Jazz ei bod yn ymddeol o nofio'n gystadleuol, a hithau'n 28 oed yn unig.
Ers iddi roi'r gorau i gystadlu, mae Jazz Carlin wedi symud ymlaen i fod yn hyfforddwr busnes ac yn fentor i raglen Nofio Cymru.
Wrth dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai Jazz Carlin: “Mae derbyn y dyfarniad hwn yn anrhydedd anferth. Mae gen i atgofion mor felys o dreulio amser yn Abertawe ac ymarfer ym Mhwll Cenedlaethol Cymru ac ni fyddwn i wedi gallu gwneud hynny heb gymorth dros y blynyddoedd gan y Brifysgol. Mae'n amgylchedd gwych i fod yn rhan ohono.”