Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r diplomat wedi ymddeol, Syr Emyr Jones Parry.
Cyflwynwyd y radd i Syr Emyr heddiw (16 Rhagfyr) yn ystod seremoni raddio'r Gwyddorau Dynol ac Iechyd.
Ganwyd Syr Emyr yng Nghaerfyrddin ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Gwendraeth. Aeth ymlaen i astudio Ffiseg Ddamcaniaethol yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, cyn ennill PhD mewn Ffiseg Polymerau yng Ngholeg Santes Catrin, Caergrawnt.
Dechreuodd ei yrfa lysgenhadol ym 1973, a tan 1998 cafodd swyddi yn Ottawa, Brwsel a Madrid, ymhlith cyfnodau yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Daeth yn Gynrychiolydd Parhaol i NATO ym Medi 2001, swydd y bu ynddi tan 2003, pan ddaeth yn Gynrychiolydd Parhaol i'r Deyrnas Gyfunol ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.
Yn 2007, penodwyd Syr Emyr yn Gadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan - corff a sefydlwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu trefniadau cyfansoddiadol Cymru, ac yn benodol i arwain yr ymgyrch i gynyddu pwerau'r Cynulliad i fod Senedd Ddeddfwriaethol lawn, yn debyg i Senedd yr Alban.
Gwasanaethodd Syr Emyr hefyd yn Llywydd Prifysgol Aberystwyth, ac ef oedd Canghellor cyntaf y Brifysgol. Ym mis Medi 2010, fe'i penodwyd yn gadeirydd Ymddiriedolwyr Canolfan Mileniwm Cymru, ac ym mis Mai 2014 fe'i hetholwyd yn Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a'i ail-ethol am y cyfnod o 2017 tan 2020.
Ers Ionawr 2008, mae wedi bod yn Gadeirydd Redress, sefydliad hawliau dynol yn Llundain.
Wrth dderbyn ei radd, dywedodd Syr Emyr Jones Parry: "Diolch i’r Brifysgol am y fraint arbennig hon. Rwy'n ddiolchgar iawn i Brifysgol Abertawe am yr anrhydedd hon. Mae'n fraint benodol i fod yn raddedig y Brifysgol hon, gan gydnabod bod hynny'n golygu dyletswydd i gefnogi a chyfrannu at y Brifysgol."