Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i'r Athro Fonesig Carol Robinson.
Cyflwynwyd y dyfarniad i'r Athro Robinson heddiw (28 Gorffennaf) yn ystod seremoni raddio'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Yr Athro Fonesig Carol Robinson yw Cyfarwyddwr cyntaf Sefydliad Darganfyddiadau Nanowyddoniaeth Kavli ym Mhrifysgol Rhydychen ac mae hefyd yn dal Cadair Athro Cemeg Dr Lee. Mae'n adnabyddus am arloesi'r defnydd o sbectrometreg màs fel dull dadansoddol ac am ei hymchwil arloesol i adeiledd 3D proteinau.
Cwblhaodd ei haddysg israddedig wrth weithio'n amser llawn yn y cwmni fferyllol Pfizer ac yn dilyn hynny astudiodd am MSc ym Mhrifysgol Abertawe, cyn ymgymryd â PhD ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Yn ogystal â bod yn Llywydd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol gynt ac yn Athro Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol, hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Athro Cemeg ym Mhrifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen. Mae ei gwaith wedi ennill dyfarniadau a gwobrau niferus, gan gynnwys anrhydedd Cadlywydd Bonesig Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) am ei gwasanaethau i wyddoniaeth a diwydiant.
Wrth dderbyn ei dyfarniad er anrhydedd, meddai'r Athro Robinson: “Rwy'n freintiedig iawn i dderbyn y dyfarniad hwn gan Brifysgol Abertawe, sydd bob amser wedi bod yn brifysgol flaengar â phwyslais cryf ar wyddoniaeth. Bydda i'n cofio am byth y cymorth a ges i wrth astudio am MSc yma. Diolch yn fawr iawn.”