Eich Diwrnod Graddio
Eich Amser ar y Llwyfan
Beth sy'n digwydd ar y dydd
Amserau ar y Dydd
Amserau Graddio |
09.30 |
11.30 |
14.15 |
16.15 |
Cofrestru |
08.00-09.00 |
10.00-11.00 |
12.45-13.45 |
14.45-15.45 |
Drysau yn Agor |
09.00 |
11.00 |
13.45 |
15.45 |
Ddarpar - raddedigion a Gwesteion i eistedd erbyn |
09.15 |
11.15 |
14.00 |
16.00 |
Cynulliad (diwedd o gwmpas) |
10.45 |
12.45 |
15.15 |
17.30 |
Dychwelyd Gŵn yn cau |
19.00 |
19.00 |
19.00 |
19.00 |
Pryd i chi'n cyrraedd
Ar dydd eich Cynulliad Graddio cynghorir myfyrwyr sydd yn graddio i gyrraedd 1-1½ awr cyn eich cynulliad.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd Y Coleg i gofrestru ar gyfer eich cynulliad, a chasglu eich cerdyn cofrestru. O'r fan honno, dylech gasglu eich gynau mewn da bryd ar gyfer eich cynulliad. Rydym yn argymell eich bod yn caniatáu 1-1½ awr cyn amser dechrau'ch cynulliad i wneud hyn. Gallwch drefnu tynnu'ch lluniau naill ai cyn eich cynulliad neu ar ei ôl. Mae'r stiwdios ffotograffiaeth hefydbwedi'u lleoli yn Y Twyni.
Yna gallwch fynd i'r Neuadd Fawr i eistedd ar gyfer eich cynulliad. Mae'n rhaid i chi fod yn eistedd 15 munud cyn eich cynulliad i sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn y cynulliad. Bydd y drysau i Awditoriwm y Neuadd Fawr yn agor tua 30 munud cyn y cynulliad.
Dylai ddarpar-raddedigion adael eu heitemau personol gyda’u gwesteion cyn mynd i’w seddau yn y neuadd; dim ond y cerdyn cofrestru fydd ei angen ar y ddarpar-raddedigion. Mae’n rhaid i’r darpar-raddedigion eistedd yn y sedd sydd wedi’i neilltuo iddynt; bydd rhif eich sedd wedi’i nodi’n glir ar eich cerdyn cofrestru.
Bydd Gwesteion yn cael mynediad i’r awditoriwm 30 munud cyn i’r cynulliad ddechrau. Bydd pob sedd i westeion heb ei neilltuo. Ni chaniateir mynediad i’r neuadd cyn yr amser hwn.
Bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn glir yn ystod yr holl ddigwyddiad a bydd tywyswyr wrth law i'ch cynorthwyo.
Yn y cynulliad
Bydd darpar-raddedigion yn eistedd yn y sedd gyda'r un rhif sydd ar ei cerdyn cofrestru. Byddwch yn derbyn eich cerdyn cofrestru ar y dydd pan rydych yn cyrraedd a cofrestru.
Dylai ddarpar-raddedigion adael eu heitemau personol gyda’u gwesteion cyn mynd i’w seddau yn y neuadd; dim ond y cerdyn cofrestru fydd ei angen ar y ddarpar-raddedigion. Bydd cardiau cofrestru yn cynnwys rhif sedd ac enw'r darpar-raddedig a lle i ddarparu sillafiad enw ffonetig i helpu i ynganu enwau.
Bydd marsial yn dweud wrthych pryd i godi. Unwaith i chi godi byddwch yn cael eich ddangos ble i fynd i gyrraedd drws y llwyfan.
Pan fydd eich enw'n cael ei alw, byddwch yn trosglwyddo'ch cerdyn cofrestru i'r cyflwynydd cyn croesi'r llwyfan, gan dynnu eich cap i gyfarch y Canghellor neu'r Dirprwy Ganghellor ac yna’n parhau i ganol y llwyfan ac i lawr y grisiau i ddychwelyd i'ch sedd.
Ar ôl y cynulliad
Yn dilyn pob cynulliad, gellir tynnu lluniau swyddogol yn Y Twyni os nad ydych wedi gwneud hynny cyn eich seremoni.
Gallwch wisgo eich gynau academaidd drwy gydol y dydd ond rhaid eu dychwelyd erbyn yr amser a nodir uchod.
Os nad ydych yn gallu mynychu eich cynulliad o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl, a fyddech gystal â rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosib.
Bydd myfyrwyr y mae eu henwau'n ymddangos yn llyfryn y cynulliad ac nid ydynt yn mynychu yn graddio yn eu habsenoldeb. Sylwer na chaiff gohiriadau eu caniatáu fel arfer, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Gwesteion
Bydd modd i chi gael mynediad i'r neuadd tua 30 munud cyn y cynulliad a RHAID eich bod yn eich seddi heb fod yn hwyrach na 15 munud cyn y cynulliad. Bydd rhywun wrth law i’ch tywys.
Mae'r cynulliad yn debygol o bara oddeutu 1 awr 15 munud ac mae'n bosib felly na fyddai'n addas i blant ifanc na babanod.
Os oes unrhyw broblemau symud neu anableddau gan eich gwesteion a wnewch chi roi gwybod i ni cyn diwrnod eich Cynulliad fel bod modd i ni gadw’r seddau priodol, Cysylltu â ni.
Yn dilyn y cynulliad, gofynnir i chi adael y neuadd er mwyn i’r staff fedru paratoi ar gyfer y gynulliad nesaf. Efallai yr hoffech fynd i'r Twyni i gael ffotograffau swyddogol.
Eich Llyfryn Graddio
Gweld a lawrlwytho llyfrynnau graddio o'r gorffennol a'r presennol
Lluniau
Lluniau Swyddogol
Bydd tîm o ffotograffwyr proffesiynol o Tempest ar gael drwy gydol yr wythnos raddio a gellir dod o hyd iddynt yn Y Twyni.
Gallwch drefnu i'ch llun gael ei dynnu ar eich pen eich hun a/neu gyda'ch teulu a'ch ffrindiau. Does dim angen archebu ymlaen llaw; gallwch drefnu hyn ar y dydd.
I weld yr holl opsiynau sydd ar gael, ewch i wefan Tempest.
Ffotograffau ar y llwyfan a dolen i lawrlwytho'r seremoni
Bydd yr holl fyfyrwyr yn gallu prynu ffotograff wedi’i argraffu o’u hamser ar y llwyfan gyda’r Canghellor neu’r Dirprwy Ganghellor ar ddiwrnod eu seremoni, ynghyd â dolen i lawrlwytho'r seremoni.
Cynnyrch | Pris |
---|---|
Ffotograffau Argraffedig (Argraffiad o safon broffesiynol o'th amser ar y llwyfan.) Ffotograff mawr 10" wrth 8" Tri ffotograff 6" wrth 4" |
£15 £20 |
E-bost Graddio Dy holl ffotograffau ar y llwyfan, a dolen i lawrlwytho recordiad o'r seremoni. |
£15 |
Pecyn Graddio Un ffotograff argraffedig 10" wrth 8", tri ffotograff argraffedig 6" wrth 4", a'r e-bost graddio. |
£40 |
Gallwch chi brynu’r rhain yn bersonol ar eich diwrnod graddio yn Y Twyni, neu drwy e-bostio gradsales@abertawe.ac.uk / lenwi'r ffurflen hon. Sylwch y bydd angen talu â cherdyn yn unig.
Os ydych wedi cyflwyno archeb ar gyfer llun ar y llwyfan ac ni allwch ddod i gasglu hyn eich hun, sylwer y bydd y ffioedd postio canlynol yn berthnasol (post yn y DU yn unig - caiff yr holl eitemau eu hanfon drwy bost dosbarth cyntaf):
Ffotograffau argraffedig – hyd at dri ffotograff mawr, hyd at dri phecyn â thri ffotograff bach, neu gymysgedd o'r ddau: £4
Hefyd rhoddir lluniau graddio ychwanegol ar albymau Flickr y Brifysgol.
Diogelu Data
Dylai myfyrwyr, gwesteion a staff sy'n mynychu'r Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo fod yn ymwybodol bod y cynulliadau’n cael eu hystyried yn ddigwyddiadau cyhoeddus.
Cyhoeddir enwau a dyfarniadau (gan gynnwys y rheiny sy'n derbyn eu dyfarniadau yn eu habsenoldeb) yn y rhaglen.
Mae recordiadau sain a delweddau o'r cynulliad ar gael yn gyhoeddus drwy we-ddarllediad byw, y cyfryngau cymdeithasol a gwerthu disgiau DVD o'r cynulliad.
Drwy gadarnhau y byddwch yn bresennol yn y seremoni, rydych chi'n rhoi'r hawl i Brifysgol Abertawe argraffu'ch enw a'ch dyfarniad yng nghyhoeddiadau'r rhaglen. Mae'r rheiny sy'n dod i'r cynulliad a'u gwesteion hefyd yn rhoi'r hawl i Brifysgol Abertawe ddefnyddio recordiad(au) fideo, recordiad(au) sain, ffotograff(au) ac unrhyw gynnwys/gopïau/dyfyniadau a gynhyrchir i'w defnyddio mewn cynyrchiadau lle mae Prifysgol Abertawe am ddefnyddio'r deunydd(iau) at ddibenion marchnata a chyhoeddusrwydd, hyrwyddo masnach.
Yn unol â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data (2018), caiff y deunydd ei ddefnyddio'n unig at ddibenion hyrwyddo neu er lles Prifysgol Abertawe.
Gall deunyddiau barhau i fod yn gyhoeddus am gyfnod amhendant o amser a gellir eu defnyddio at ddibenion addysgol a/neu farchnata. Efallai bydd angen eu golygu at ddibenion ansawdd neu dechnegol a chaiff eu storio'n ddiogel gan y Brifysgol neu ei hasiantiaid.
Bydd gan Brifysgol Abertawe hawlfraint ar y deunydd(iau) a gellir eu defnyddio fel y maent neu ar y cyd â deunydd(iau) eraill, fel rhan o gynhyrchiad cyfansawdd.
Nodyn i'r rhai hynny nad ydynt yn mynychu (yn derbyn eu dyfarniadau yn eu habsenoldeb): Os ydych yn gwrthod i'ch data personol cael ei gyhoeddi yn y rhaglen (enw a dyfarniad), rhowch wybod i'r Swyddfa Raddio.
Ystafell Ffrwd Fyw
Os yw’ch teulu a’ch ffrindiau am rannu’ch diwrnod arbennig ond does dim tocynnau ganddynt, gallant wylio’r seremoni’n fyw.
Sylwer, os byddwch yn dod â gwesteion heb docyn, gallant wylio'r cynulliadau drwy ddarllediad byw yn ystafell GH043, sydd ar lawr gwaelod y Neuadd Fawr.
Darllediad Byw
Bydd ein holl seremonïau yn cael eu darlledu’n fyw ar ein gwefan yn http://www.swansea.ac.uk/graduation/ a bydd modd eu gwylio drwy’r rhyngrwyd.
Bydd y darllediad ffrydio byw’n ymddangos yn awtomatig ar ddechrau pob seremoni.
Nwyddau Graddio
Bydd nwyddau graddio ar gael o Fulton Outfitters: www.fultonoutfitters.co.uk
Trefniadau Teithio a Pharcio ar gyfer Graddio
Bydd parcio ar gael yn y cyfleusterau Parcio a Theithio Ffordd Fabian. Rhaid talu £1.00 y car wrth gyrraedd y maes parcio. Bydd bysus moethus a bysys cyfleus yn teithio rhwng y maes parcio a Champws y Bae. Bydd y bysus yn rhedeg yn barhaus yn ystod cyfnod penodedig er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd eich cynulliad ar amser.
Bydd y cerbydau a’r bysus hygyrch ar gyfer graddio yn cael eu darparu gan Barcio a Theithio Ffordd Fabian YN UNIG. Os dewiswch ddefnyddio unrhyw faes parcio neu Barcio a Theithio canol y ddinas arall, bydd angen i chi wirio eu gwasanaethau a’u hamserlenni bws penodol.
Lleolir safle parcio a theithio Ffordd Fabian oddi ar yr A483, tua 1.5 milltir i ddwyrain canol y ddinas. O’r M4, gadewch y draffordd ar gyffordd 42 (Dwyrain Abertawe) a dilynwch arwyddion ffordd tuag at ‘Abertawe’ am tua phedair milltir. Mae Ffordd Fabian tua 10 munud mewn car o’r M4. (Parcio a Theithio Ffordd Fabian, Ffordd Fabian, Abertawe, SA1 8LD)
Bydd y bysus yn rhedeg drwy gydol y dydd i ddychwelyd gwesteion i'r holl feysydd parcio. Bydd y bysus cyntaf nôl yn gadael unwaith i'r seremoni gyntaf orffen (tua 10:45am) a byddant yn parhau drwy gydol y dydd tan yr amser olaf a nodir (Amserlen i ddilyn).
Sylwer na fydd parcio ar gael ar Gampws y Bae i westeion a darpar-raddedigion yn ystod y cynulliadau am ei bod yn wythnos arferol i'r staff. Mae nifer cyfyngedig o fannau ar gael i westeion a/neu ddarpar-raddedigion ag anableddau, a bydd y Swyddfa Graddio'n neilltuo'r rhain ar ôl cwblhau'r broses cadw lle. Ni fydd darpar-raddedigion a'u gwesteion yn gallu cyrraedd meysydd parcio'r campws, a chânt eu hailgyfeirio i'r maes Parcio a Theithio os nad oes ganddynt docyn parcio graddio.
CYFARWYDDIADAU I PARCIO A THEITHIO FFORDD FABIAN
(GPS – SA1 8LD)
Mae safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian oddi ar yr A483, tua 1.5 milltir i’r gorllewin o Gampws y Bae.
O’r M4, gadewch wrth Gyffordd 42 (Dwyrain Abertawe) a dilynwch yr arwyddion am ‘Abertawe’ am oddeutu 4 milltir. Mae arwydd ar gyfer maes parcio Parcio a Theithio Ffordd Fabina ar yr ochr dde. O ganol dinas Abertawe, gadewch Abertawe ar hyd Ffordd Fabian a bydd y safle Parcio a Theithio ar y chwith.
GLUDIANT CYHOEDDUS
Os byddwch yn cyrraedd ar gludiant cyhoeddus, mae Gorsaf Drenau Abertawe ar brif reilffordd y gorllewin o Lundain Paddington, sef tua 3 awr o daith.
Cynghorir ymwelwyr sy'n cyrraedd ar y trên i ddal y bws i Orsaf Fysus Abertawe yn uniongyrchol o'r tu allan i'r orsaf drenau. Bydd bysiau First Cymru yn rhedeg i Orsaf Fysiau Abertawe ac mae safle tacsis y tu allan i’r orsaf drenau.
Ewch i wefan Traveline Cymru i ddod o hyd i gynlluniwr taith bws a thrên.
Map Graddio - Gaeaf 2024
Mae'r map hwn yn amlinellu'r holl bwyntiau allweddol efallai y bydd eu hangen arnoch wrth ddod i'ch seremoni raddio yr haf hwn ym Mhrifysgol Abertawe.
Am unrhyw ymholiadau sydd gennych, darllenwch y dudalen neu e-bostiwch y tîm graddio.