Ben Overland
Nod arbrawf Ben yw pennu a fydd gwelliannau i ficrobiom ac imiwnedd mamau Pysgod Rhesog a achosir drwy ychwanegu olew microalgâu at y diet, yn cael eu pasio i’r epil. Bydd hefyd yn edrych ar effeithiau diheintio wyau arferol ar bresenoldeb ac amrywiaeth microbiota embryo.
Goruchwylwyr: Yr Athro Sonia Consuegra a'r Athro Carlos Garcia de Leaniz
Georgia Williams
Bu Georgia yn ymchwilio i broffil metabolion algâu coch, Porphyridium purpureum. Y nod oedd defnyddio technegau metabolimig gwahanol i ganfod y newid o ran cynhyrchu metabolion dan amodau straen UVA/UVB; a nodi cynhyrchion defnyddiol posib y gellir eu defnyddio mewn biodechnoleg ddiwydiannol.
Goruchwylwyr: Dr Carole Llewellyn, Dr Claudio Fuentes Grunewald a Dr Alla Silkina
Megan Jones
Mae prosiect amlweddog Megan yn edrych ar effeithiau trawsgenedlaethol, morffolegol ac ymddygiadol ychwanegu mymryn o ficroalgâu at fwyd arferol pysgod rhesog, yn ogystal ag ymchwilio i effeithiau cynyddu faint o weithgarwch corfforol mae’r pysgodyn yn ei wneud.
Goruchwylwyr: Yr Athro Carlos Garcia de Leaniz a’r Athro Sonia Consuegra
Hannah Cole
Bu Hannah yn ymchwilio i wella technegau bridio cregyn glas perlog caeth, rhywogaeth dŵr croyw sydd mewn perygl, ar gyfer prosiect ymchwil ei MSc. Nid yw'r diet gorau ar gyfer magu cregyn gleision perlog caeth ifanc yn hysbys, felly bu Hannah yn ymchwilio i'r diet gorau i helpu'r cregyn ifanc i dyfu ac i oroesi.
Goruchwyliwr: Dr Gethin Thomas
Myo Naung
Datblygodd Myo ddull sgrinio moleciwlaidd cyflym i ganfod microsboridiau mewn pysgod glanhau fel rhan o'i MRes.
Goruchwylwyr: Yr Athro Sonia Consuegra a'r Athro Carlos Garcia de Leaniz
Craig Pooley
Bu prosiect MRes Craig (a ariannwyd ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a Marine Harvest Scotland) yn archwilio dulliau ar gyfer gwella cyfraddau goroesi epil ieir môr (Cyclopterus lumpus) o'r ŵy i’r silod mân ar ôl cael eu diddyfnu.
Goruchwylwyr: Yr Athro Carlos Garcia de Leaniz a'r Athro Sonia Consuegra