Cydweithrediad Busnesau a Diwydiant
Nod y BioHYB yw dwyn ynghyd busnesau, diwydiant ac arbenigedd academaidd o'r radd flaenaf, ynghyd ag ymchwilwyr ac arbenigwyr technegol cymwys iawn, i helpu i sbarduno ymchwil, datblygu ac arloesi modern yn y Sector Cynnyrch Naturiol. Bydd hyn yn hyrwyddo datblygiad cynnyrch naturiol newydd o werth uchel, i fod yn sail i sector Cynnyrch Naturiol yng Nghymru, sy'n tyfu ac yn gystadleuol yn rhyngwladol, gan greu mwy o fusnes a swyddi yn y rhanbarth. Mae gan y Brifysgol hanes ardderchog o weithio gyda’n Partneriaethau Busnes a Diwydiant Partneriaethau Trosglwyddo Clyfar a Gwybodaeth. Bydd y BioHYB yn cryfhau ymhellach y cydweithredu hirdymor sefydledig, yn ogystal â meithrin partneriaethau newydd.