Rydym yn un o'r Adrannau Daearyddiaeth mwyaf hirsefydlog yn y DU. Mae tua 25,000 o fyfyrwyr wedi graddio o’r adran ers 1954. Mae ein cartref yn nhiroedd hardd Campws Parc Singleton.
Ein cenhadaeth yw cynnig addysgu rhagorol ynghyd ag ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, mewn amgylchedd diogel a chefnogol lle mae myfyrwyr a staff yn teimlo bod croeso iddynt ac y gallant gyflawni eu gorau.
Beth sy'n gwneud Adran Ddaearyddiaeth Abertawe yn unigryw?
- Mae cartref yr Adran yn agos at amgylchedd naturiol hardd Penrhyn Gŵyr a Sir Benfro yn ogystal ag orielau ac amgueddfeydd Abertawe, ac rydym yn trefnu sawl taith maes i’r tirweddau lleol yma.
- Rydym yn adran ganolig ei maint - yn ddigon mawr i gynnig dewis, ac yn ddigon bach i adnabod ein myfyrwyr yn bersonol.
- Rydym yn cysylltu ein hymchwil fyd-eang â heriau lleol, gan weithio'n agos gydag elusennau, byd diwydiant a sefydliadau'r trydydd sector, yng Nghymru a’r tu hwnt.