Gwnewch yn fawr o gyfleusterau o’r radd flaenaf a adeiladwyd at y diben, cyfarpar a hyfforddiant a chymorth technegol ar y safle sy’n gallu eich helpu i gael mantais gystadleuol a gwella eich gallu i arloesi, yn ogystal â lleihau eich gwariant ar ymchwil a datblygu mewnol.

Yn ogystal, gallwch gyrchu adnoddau diwylliannol a chelfyddydol helaeth, gan gynnwys archifau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a mannau arddangos. Drwy weithio gyda Phrifysgol Abertawe, gall eich sefydliad wneud y canlynol: 

  • Manteisio ar ein hyfforddiant ymchwil a datblygu a'n cymorth technegol
  • Defnyddio ein labordai a’n swyddfeydd
  • Datblygu a phrofi cynnyrch a phrosesau
peiriannydd yn defnyddio peiriant

DARGANFYDDWCH YR AMRYWIAETH O GYFLEUSTERAU SYDD AR GAEL

Delweddu Deunyddiau Uwch

Mae’r Cyfleuster AIM yn set o labordai craidd ar gyfer y Gyfadran Wyddoniaeth a Pheirianneg sy’n galluogi ystod eang o dechnegau optegol, electron a Phelydr-X mewn delweddu a dadansoddi:
Microsgopeg Optegol, SEM, TEM, STEM, gydag EDS, WDS, EBSD ac EELS, FIB, XRD, XPS, X-Ray CT a Pelydr-X CT.
 
Mae'r Cyfleuster yn cefnogi ceisiadau diwydiannol yn rheolaidd yn ogystal â bod yn gyfleuster craidd ar gyfer addysgu ac ymchwil prifysgol mewnol ac allanol.

Sefydliad AWEN

Mae Sefydliad Awen yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw ynghyd â phobl hŷn a'r diwydiannau creadigol i gyd-greu cynhyrchion, gwasanaethau ac amgylcheddau ar gyfer poblogaeth sy'n fwyfwy hŷn.

Y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM)

Mae CISM yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, o ymchwil sylfaenol i ymchwil a datblygu technoleg cymhwysol, prototeipio a datblygu prosesau, gwasanaethau arbenigol, deori, ymgysylltu, hyfforddiant a mynediad at bortffolio grantiau arloesi'r DU a'r UE.

Y Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (CSAR)

Mae gan CSAR systemau dyframaethu ailgylchdroi modern y gellir eu rhaglennu'n llawn. Yn y ganolfan cynhelir ymchwil gymhwysol i ystod amrywiol o organebau dyfrol, o amgylcheddau tymherus i drofannol, ac o amgylcheddau morol i ddŵr croyw.

Cyfleuster Delweddu Clinigol 

Dyma fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae'r datblygiad yn seiliedig ar egwyddorion ymchwil ac addysg feddygol sy'n hybu iechyd y boblogaeth. Prif rôl y Cyfleuster Delweddu Clinigol yw bod yn ganolfan sy'n hwyluso ymchwil glinigol. Y tair prif haen yw ymchwil glinigol sy'n seiliedig ar fferylliaeth ym maes oncoleg, defnyddio MRI yn glinigol a datblygu llwybrau clinigol sy'n seiliedig ar ddelweddu.

Y Ganolfan Eifftaidd

Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn amgueddfa ar Gampws Parc Singleton sy'n ymroddedig i ddiogelu'r casgliad o henebion y Hen Aifft a rheoli'r casgliad hwnnw, ac mae ganddi gyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u hintegreiddio fel rhan o weithrediadau craidd y ganolfan ar gyfer darparu swyddogaethau ymchwil a chyfranogiad i blant a phobl o bob oedran a gallu.

Yr Academi Iechyd a Llesiant

Mae’r Academi Iechyd a Llesiant yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau fforddiadwy a hyblyg i gefnogi cymuned de-orllewin Cymru. Mae gwasanaethau'r Academi'n ategu'r rhai hynny a ddarperir gan y GIG ac yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau deallus a chadarnhaol ynghylch eu ffordd o fyw a gwella eu hiechyd a'u lles. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys: osteopatheg, clywedeg a chardioleg.

Aelodaeth a Thenantiaethau'r Sefydliad Gwyddor Bywyd

Dewch yn aelod o rwydwaith bywiog o fusnesau gwyddor bywyd o'r un meddylfryd, gan rentu swyddfa bwrpasol neu beidio.

Labordai'r Sefydliad Gwyddor Bywyd

Llogi swyddfa neu ddesg yn yr Athrofa Gwyddorau Bywyd

Mae swyddfeydd i'w llogi yn Lon Sgeti, Ysbyty Morriston a Phrifysgol Abertawe. Os ydych chi'n berson neu sefydliad yn y sector technoleg chwaraeon, technoleg meddygol, arloesi neu les, llenwch y ffurflen hon a byddwn yn cysylltu â chi

Cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd (JCRF)

Mae’r JCRF yn meddu ar arbenigedd mewn astudiaethau cam II – III aml-ganolfan a phortffolio cadarn sy'n mynd i'r afael â llawer o'r heriau presennol i iechyd – rhai wrth asesu meddyginiaethau newydd ac eraill wrth asesu dyfeisiau newydd. Mae eu hastudiaethau'n cwmpasu diabetes, clefyd y galon, sglerosis ymledol a llawer o gyflyrau meddygol eraill.

Archifau Richard Burton

Archifau Richard Burton yw cof corfforaethol a chronfa archifau Prifysgol Abertawe, sy'n dal deunyddiau o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'r Archifau yn dethol y cofnodion o werth hanesyddol y mae'r Brifysgol wedi'u creu ac wedi cael gafael arnynt, gan eu cadw a sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb.

Y Sefydliad Dur a Metelau (SaMI)

Mae SaMI yn gyfleuster mynediad agored sy'n gweithio'n bennaf gyda'r diwydiant dur a metelau i ddarparu atebion arloesol ymarferol.

Swansea Materials Research and Testing (SMaRT)

Mae SMaRT yn labordy profion mecanyddol yn y DU a achredir gan Wasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS), sy'n canolbwyntio ar fesur priodoleddau deunyddiau a phennu perfformiad deunyddiau/cydrannau metelig, yn ogystal â chyfansoddion matricsau ceramig. Mae SMaRT yn gweithio ochr yn ochr â’r Sefydliad Deunyddiau Adeileddol (ISM), sy'n darparu dehongliad academaidd o ddata profion mecanyddol a phrosiectau ymchwil cydweithredol.

Uned Dreialon Abertawe 

Mae Uned Dreialon Abertawe'n cynnig cyngor a chymorth ynghylch methodoleg i dimau clinigol, wrth gynllunio treialon newydd ac wrth wneud ceisiadau am grantiau. Mae'n gweithio gyda thimau treialon i ddatblygu, cychwyn, cynnal, rheoli a dadansoddi astudiaethau a ariennir, a chyflwyno adroddiadau amdanynt.

SUSiM (Efelychu Prifysgol Abertawe)

Mae SUSiM yn defnyddio amrywiaeth o fethodolegau addysg sy'n seiliedig ar efelychu i gefnogi dysgwyr a thimau i ymdrochi, myfyrio a datblygu drwy sefyllfaoedd byd go iawn mewn athroniaeth un rhaglen ar amrywiaeth o safleoedd.

Canolfan y Celfyddydau Taliesin

Mae'r Ganolfan yn cyfoethogi bywydau diwylliannol unigolion a chymunedau ledled y rhanbarth, gan gyflwyno profiadau o'r celfyddydau i gynulleidfaoedd yn ein lleoedd ac ar strydoedd Abertawe.

SUT GALLAF ARCHEBU CYFARPAR A CHADW LLE?

Cysylltwch â'n canolfannau ymchwil drwy gysylltu â hwy'n uniongyrchol drwy eu gwefannau a fydd yn ymddangos yn yr wybodaeth am gyfleusterau uchod. Fel arall, cysylltwch â'n Swyddogion Effaith ac Ymgysylltu, sydd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiad:

  • Tomos Watson, Swyddog Effaith ac Ymgysylltu ar ran Gwyddoniaeth (y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg)
  • Kate Spiller, Swyddog Effaith ac Ymgysylltu (Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol)
  • Raha Rahbari, Swyddog Effaith ac Ymgysylltu (y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd)
archifau richard burton