Mae partneriaeth Prifysgol Abertawe â Fujitsu, sy'n cynnwys yr Ysgol Reolaeth a'r Ysgol Feddygaeth, wedi'i hadeiladu ar gydweithio mewn meysydd sy'n amrywio o gyfrifiadura perfformiad uchel i dechnolegau byw â chymorth
Wedi'i alinio â Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe, mae Fujitsu wedi sefydlu swyddfa â 15 aelod staff sy'n gweithio ar Gampws y Bae, gan gyflawni prosiectau gyda Bwrdd Iechyd PABM, y Brifysgol a diwydiant ehangach ar draws y rhanbarth a'r tu hwnt.
Mae Fujitsu hefyd wedi agor Hyb Arloesedd Addysg sy'n canolbwyntio ar dechnoleg yn Ysgol Reolaeth y Brifysgol. Mae'n un o nifer o hybiau a sefydlwyd ledled y DU i ddarparu atebion perfformiad uchel i ysgolion, colegau a phrifysgolion er mwyn cefnogi datblygiad sgiliau digidol. Ei amcan yw gwella addysgu a rhyddhau potensial myfyrwyr drwy roi technoleg wrth wraidd addysg.
Mae'r presenoldeb lleol hwn yn cefnogi gweithgareddau megis cyfleoedd lleoliad i raddedigion, digwyddiadau hacathon a'r fenter, Banc Doniau STEM ar y cyd â Choleg Gŵyr.
Yn ogystal, mae Fujitsu yn noddi prosiectau PhD ac ymchwil academaidd ym meysydd arloesi agored, iechyd a lles a'r amgylchedd adeiledig, sy'n cynnwys cysylltiadau ymchwil â chydweithwyr lleol yn y DU, yn yr UE ac yn Japan. Mae'r prosiectau hyn yn datblygu piblinell o arloesi i adlewyrchu uchelgeisiau'r rhanbarth i fod yn 'Arfordir y Rhyngrwyd.
Mae Fujitsu yn cyflogi dros 14,000 o bobl yn y DU ac Iwerddon, ac mae ei refeniw dros £1.8 biliwn. Mae ei bortffolio integredig o gynhyrchion a gwasanaethau'n cynnwys ymgynghori, cymwysiadau, cynhyrchion technoleg, integreiddio systemau a gwasanaethau a reolir, gan gynnwys rhai yn y cwmwl, ar gyfer cwsmeriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat. Am ragor o wybodaeth, ewch i http://uk.fujitsu.com