Ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn annog ein holl fyfyrwyr i weithredu ar eu dawn entrepreneuraidd i gyfoethogi eu profiad personol tra eu bod gyda ni ac i gynyddu eu cyfleoedd cyflogaeth pan fyddant yn graddio. Yn ddiweddar, bu i grŵp o fyfyrwyr gymryd rhan mewn Hacathon mewn cydweithrediad â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, gyda’r nod o ganfod arloesiad technolegol a all hybu refeniw newydd neu uwch.
Gan weithio ochr yn ochr â thîm Menter y Brifysgol, rhoddwyd 48 awr i fyfyrwyr lunio datrysiad arloesol â'r potensial i gynhyrchu incwm i'r clwb ac i wthio Dinas Abertawe i flaen yr arena arloesi technoleg.
Roedd y cynigion yn amrywio o strategaethau i wella adloniant ar ddiwrnodau gêm a mynediad defnyddwyr i bwyntiau gwasanaeth, yn ogystal â gwella ymgysylltu â'r cefnogwyr drwy ganfyddiad brand.
Bu hefyd modd i'r grŵp fynd â'u her ar y cae yng ngêm yr Elyrch yn erbyn Millwall yn Stadiwm Liberty, er mwyn canfod trafferthion mewn amser real a dod o hyd i ffyrdd o ddileu rhwystrau amlwg i'r cefnogwyr ar ddiwrnod gêm, cyn cyflwyno'u syniadau i banel o gynrychiolwyr y clwb.
Mewn diwydiant lle noddi crys yw'r un ffynhonnell incwm masnachol fwyaf i glwb, mae'r dirwedd adloniant chwaraeon yn newid yn gyflym, gyda gwelliannau'n amrywio o weithrediadau chwaraeon, gan gynnwys diwrnodau gêm, cyfryngau digidol a datblygu apiau, gyda galw defnyddwyr yn gyrru'r cyfan.
Mae Hacathon yn amlwg mewn nifer o ddiwydiannau eraill, ond maent yn eithaf newydd yn y byd pêl-droed, gyda chlybiau megis Dinas Manceinion, Chelsea a Bayern Munich yn eu cynnal.
Myfyrwyr yn cydweithio â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe ar gyfer penwythnos Hacathon cyntaf
Meddai Mark Davies, Pennaeth Byd-eang Partneriaethau a Gwerthiannau Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe:
"Fel clwb sy'n adnabod yr angen i ymddwyn a thyfu yn wahanol i glybiau pêl-droed eraill, bydd arloesi bob amser ar flaen y gad yn ein gweithrediadau.
"Roedd yr hyn y cyflwynodd y myfyrwyr i ni, gan ystyried yr amserlen fer a'r diffyg gwybodaeth allanol o'n diwydiant, o ansawdd uchel iawn, a dylai Prifysgol Abertawe fod yn falch ohonynt.
"Wrth symud ymlaen, byddwn yn adeiladu ar y digwyddiadau, a hefyd y syniadau lu a gyflwynwyd er mwyn gweld pa mor ddichonadwy byddai mynd â nhw i'r farchnad."
Meddai Emma Dunbar, Pennaeth Mentergarwch Prifysgol Abertawe:
"Ym Mhrifysgol Abertawe anogwn ein holl fyfyrwyr i weithredu ar eu doniau mentergar er mwyn gwella'u profiad yn ystod eu hamser gyda ni ac i gynyddu eu cyfleoedd hunangyflogaeth neu gyflogadwyedd ar ôl graddio.
"Mae cydweithio â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe ar yr Hacathon yn ychwanegu at eu profiad ac mae'n ffordd wych i fyfyrwyr feddwl am ddatblygu datrysiadau arloesol i heriau masnachol go iawn. Mae ein myfyrwyr wedi dangos gallu naturiol ar gyfer busnes, a gwyddwn fod dyfodol disglair o'u blaenau."
Meddai Kelly Jordan, Swyddog Mentergarwch ym Mhrifysgol Abertawe, a arweiniodd yr Hacathon:
"Roedd y profiad yn amhrisiadwy i'n myfyrwyr, o ran datblygu eu sgiliau ac o ran gwneud ffrindiau newydd neu gysylltiadau busnes ar hyd y ffordd. Hoffem ddiolch i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe am gydweithio â ni ar yr her hon, a chroesawn gydweithio â busnesau eraill yn y rhanbarth."
Sut allwch chi gymryd rhan?
Mae llawer o ffyrdd y gallwch gefnogi ein myfyrwyr a’n hentrepreneuriaid arfaethedig gan gynnwys:
- Rhoi lleoliadau gwaith entrepreneuraidd
- Rhoi sgwrs ysbrydoledig
- Mentora myfyrwyr sy’n chwilio am yrfa yn eich diwydiant
- Darparu problemau ar gyfer prosiectau “Gwir Brofiad”
- Hyrwyddo beth mae’r Brifysgol yn ceisio’i gyflawni drwy eich rhwydweithiau i annog sefydliadau eraill i gymryd rhan
- Cymorth ariannol
Os ydych chi'n meddwl y gallwch chi helpu cysylltwch â'n tîm gwybodaeth busnes.