Mae prosiect METaL (Addysg, Hyfforddiant, a Dysgu Deunyddiau a Gweithgynhyrchu) yn weithred dysgu yn y gweithle a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. I ddathlu ei ben-blwyddyn yn 10 oed, mae’r Athro Dave Penney a’r Athro James Sullivan, yn myfyrio ar sut mae’r prosiect wedi datblygu o’r syniad gwreiddiol i brosiect Cymru gyfan sydd wedi cyflenwi dysgu yn y gweithle i dros 1000 o bobl.
Athro James Sullivan
"Rydym wedi dod yn bell ers i'r syniad cychwynnol 10 mlynedd yn ôl. Roeddem yn ymwybodol bod Prifysgol Abertawe eisoes yn darparu llwybr at addysg uwch ar gyfer pobl gyflogedig drwy ei chyrsiau Meistr a Doethuriaeth mewn Peirianneg.
Fodd bynnag, ar ôl siarad â'n cydweithwyr ym myd diwydiant gallem weld bwlch yn y ddarpariaeth hyfforddiant ar gyfer cyflogeion sydd eisoes yn gweithio ym myd diwydiant y mae angen iddynt ddeall yr wyddoniaeth sylfaenol a'r wybodaeth am beirianneg sy'n tanategu eu rolau. Hefyd daeth yn glir fod llawer o bobl a ddechreuodd weithio yn 16 oed yn hytrach nag astudio cymwysterau Safon Uwch neu radd draddodiadol ac yn y blaen sydd bellach am ddatblygu eu sgiliau a chael mynediad at addysg bellach mewn ffordd hyblyg. O'r syniad hwn, dechreuodd Prosiect METaL ddatblygu."
"Roeddem yn meddwl trwy ddarparu tameidiau bach o hyfforddiant ar ffurf modiwlau 10 credyd y byddai METaL yn galluogi unigolion, sydd mewn swyddi, i ennill yr wybodaeth sylfaenol y mae ei hangen i ddatblygu'r gweithlu peirianneg.
"Ein rôl yw cefnogi busnesau ac unigolion drwy ein hyfforddiant. Nid oes modd tanamcangyfrif pwysigrwydd y sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch (AM&M) o ran ffyniant economaidd Cymru. Yn ystod ei hanes 10 mlynedd, mae METaL wedi cefnogi dros 1300 o unigolion a thros 80 o gwmnïau gwahanol gyda'u hanghenion hyfforddiant. At hynny, wedi iddynt dderbyn hyfforddiant gan METaL, dewisodd 30 o unigolion i barhau â'u taith i addysg uwch, ac erbyn hyn rydym wedi gweld yr unigolyn cyntaf i fynd o hyfforddiant METaL, i radd ran-amser a'r holl ffordd i gwblhau Doethuriaeth mewn Peirianneg."
"Mae wedi bod yn daith anhygoel, ers cael ei sefydlu, mae'r prosiect wedi mynd o nerth i nerth. Mae'r rhaglen wedi tyfu o brosiect a oedd yn canolbwyntio ar dde Cymru a'r Cymoedd i fod yn weithrediad Cymru gyfan uchel.
Athro Dave Penney
"Yn wreiddiol tri unigolyn yn unig oedd wedi'u cyflogi ar y prosiect, fodd bynnag o ganlyniad i alw a’i enw da cynyddol ym myd diwydiant, mae'r prosiect wedi tyfu ac erbyn hyn mae'n cyflogi 11 o staff amser llawn i ddarparu hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb hyblyg ar amryw bynciau ym meysydd deunyddiau a gweithgynhyrchu.
"Rydym wedi dod yn bell ers dechreuad diymhongar y prosiect. Mae gwybod ein bod wedi helpu cynifer o bobl a busnesau gyda'u hanghenion hyfforddiant a gweld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fywydau a gyrfaoedd pobl yn rhoi ymdeimlad go iawn o gyflawniad. Rydym yn datblygu'n barhaus i fodloni anghenion newidiol byd diwydiant, ac yn wir mae COVID wedi'n sbarduno ymhellach i symud i gyflwyno mwy o'n hyfforddiant ar-lein.
"Mae'r sector AM&M yn newid trwy'r amser gydag is-sectorau newydd sy'n dod i'r amlwg megis technoleg adnewyddadwy, Diwydiant 4.0, Economi Gylchol a datgarboneiddio. Mewn blynyddoedd diweddar mae rhai sectorau wedi esblygu mewn modd dramatig gan gynnwys y diwydiannau awyrofod a moduro a gwelwyd bylchau mewn sgiliau ym meysydd technoleg fatri, dynamos a deunyddiau arbenigol. Hefyd mae'r rhain yn sgiliau sylfaenol ar gyfer y sector adnewyddadwy ac mae galw cynyddol amdanynt ar draws economi Cymru a'r tu hwnt. Mae METaL wedi ymdrechu i fodloni anghenion y sector hwn sy'n newid yn gyflym drwy gadw'r cyrsiau yn gyfredol ac yn berthnasol ar gyfer y diwydiant”.
"Yn fwy diweddar mae'r prosiect wedi ymateb i ofynion busnes yn ystod y pandemig, gan drawsnewid yn gyflym ac yn llwyddiannus o addysgu yn yr ystafell ddosbarth i ddarparu'r holl addysgu ar-lein; drwy addasu modiwlau presennol megis Technoleg Cyrydu a Chaenau, yn ogystal â datblygu deunydd cwrs newydd sbon. Mae'r adborth gan ddiwydiant wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mae cyflogwyr a chyflogeion yn nodi eu bod yn gwerthfawrogi hyblygrwydd y dysgu ar-lein.
"Ni fyddai cyflawniadau'r deng mlynedd diwethaf wedi bod yn bosib heb y cymorth hanfodol rydym wedi'i dderbyn gan Gronfa Datblygu Ewrop a Llywodraeth Cymru. Hoffai tîm METaL ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect dros y blynyddoedd sydd wedi cyfrannu at lwyddiant parhaus y prosiect. “
Yr hyn y mae ein partneriaid diwydiant wedi'i ddweud
"Fel cwmni rydym wedi elwa o sawl cwrs a ddarparwyd gan brosiect METaL, ac rydym yn gyffrous am barhau i ddatblygu'r berthynas hon gyda'r prosiect a Phrifysgol Abertawe." Meddai James Morton, Cyfarwyddwr MM Engineering
"Fel cwmni sy'n ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol ein cyflogeion, roeddem yn teimlo mai METaL oedd yr ateb gorau." Meddai Adrian Golding, Rheolwr Cynhyrchu, Envases
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni neu os hoffech ddarganfod mwy am y Prosiect METaL ewch i'n gwefan neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol.