Mae BywydCampws yn gweithredu ar sail set ddiffiniedig o Werthoedd Craidd a disgwylir i'n staff allu arddangos ymrwymiad i'r gwerthoedd hyn o adeg gwneud cais am swydd ac wrth gyflawni dyletswyddau beunyddiol eu rolau. Ein Gwerthoedd:
Rydym yn Broffesiynol
Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio ein gwybodaeth, ein sgiliau, ein creadigrwydd, ein gonestrwydd a'n doethineb i ddarparu gwasanaethau arloesol, effeithiol ac effeithlon ynghyd ag atebion o safon ardderchog.
Rydym yn Cydweithio
Rydym yn ymfalchïo mewn amgylchedd gweithio rhagweithiol a chydweithredol o gydraddoldeb, ymddiriedaeth, parch, cydweithio a her, i ddarparu gwasanaethau sy'n ceisio rhagori ar anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid.
Rydym yn Ofalgar
Rydym yn derbyn cyfrifoldeb am wrando ar ein myfyrwyr, ein cydweithwyr, partneriaid allanol a'r cyhoedd, eu deall ac ymateb yn hyblyg iddynt, fel bod pob cysylltiad rhyngddynt a ni yn brofiad personol a chadarnhaol.