CWRDD Â RICHARD

Pennaeth Masnachol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Richard Morris, yn clymu careiau ei esgidiau i daclo Hanner Marathon Rhithwir Abertawe o Raleigh, yng ngogledd Carolina, er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen 'Cymryd camau breision dros iechyd meddwl.'

Darganfyddwch fwy am pam fod Richard yn ymgymryd â'r her hon.

Pam penderfynoch chi redeg yn Hanner Marathon Abertawe?

Yr her, a ffocws ar gyfer fy hyfforddiant ac achos arbennig!

Beth mae'n ei olygu i chi'n bersonol?

Richard Morris

Ymdeimlad o gyflawniad a gobeithio helpu eraill trwy godi arian.

Dywedwch pam mae iechyd meddwl gwell yn bwysig i chi.

Pan fydd fy iechyd meddwl yn dda, rwy'n Dad gwell, rwy'n well yn fy swydd ac rwy'n teimlo'n hapus!

Ydych chi wedi rhedeg yn gystadleuol o'r blaen?

Dim mewn gwirionedd - Dwi'n defnyddio rhedeg fel amser i fwynhau ar fy mhen fy hun ac i ddianc rhag fy sgriniau.

Dywedwch wrthym sut byddwch yn hyfforddi cyn y ras.

Rydw i wedi gwneud llawer o redeg 5 cilomedr o hyd, felly gallai hyn fod yn broblem. Byddaf yn cadw golwg ar fy nghyflymder yng ngwres gogledd Carolina.

Os hoffech gyfrannu at yr elusen Cymryd camau breision dros iechyd meddwl, gallwch wneud hynny drwy JustGiving - diolch.