Nid graddio yw diwedd dy gysylltiad â'r brifysgol, dim ond y cam nesaf yn dy daith yn Abertawe!

Fel myfyriwr graddedig Prifysgol Abertawe, rwyt ti mewn cwmni da, yn ymuno â rhwydwaith sy'n tyfu drwy'r amser o fwy na 250,000 o gyn-fyfyrwyr sydd yn barod i dy gefnogi di!

Diweddarwch eich manylion cyswllt

Drwy fod yn un o raddedigion Abertawe, mae gennych fynediad at y canlynol:

  • Cymorth Cyflogaeth/Gyrfaoedd drwy Gwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion, sy'n rhoi sgiliau, cyfleoedd am swyddi, cyngor ar yrfaoedd a chymorth ymarferol gan ein harbenigwyr.
  • Cymuned LinkedIn ar-lein unigryw, yn benodol ar gyfer cyn-fyfyrwyr, staff a myfyrwyr Abertawe, cysylltwch â gweithwyr proffesiynol yn eich diwydiant ar gyfer rhwydweithio, cyngor, mentora a mwy.
  • Manteision Cyn-fyfyrwyr! Gostyngiadau mewn gwestai lleol, aelodaeth campfa a llawer mwy.

Byddem yn eich annog i ddiweddaru eich manylion cyswllt isod cyn cael mynediad at y gwasanaethau cymorth hyn. Er mwyn i ni gysylltu â chi a rhoi'r newyddion diweddaraf i chi.

Mentora

Cymorth wedi’i deilwra i fyfyrwyr a graddedigion diweddar

Cyfarfod mentor a mentorai