Dathlodd Prifysgol Abertawe ei Chanmlwyddiant ar 19 Gorffennaf 2020. Roedd yr achlysur unigryw hwn yn oes y Brifysgol yn gyfle gwych i ddathlu ei chyflawniadau a'i thaith dros y ganrif flaenorol ac edrych tua'r dyfodol disglair sydd o'n blaenau.

Gwnaethom goffáu llwyddiant academaidd a chyflawniadau balch staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Mae ein Habertawe ni yn golygu pethau gwahanol iawn i wahanol bobl. Roeddem yn awyddus i gynnwys ein cymuned yn nathliadau'r Canmlwyddiant, a rhannu beth mae Prifysgol Abertawe yn ei olygu iddyn nhw. Gallwch ddarllen isod am y mentrau a'r dathliadau a gynhaliwyd i nodi'r garreg filltir bwysig hon yn hanes ein Prifysgol.

Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â deiliaid hawliau er mwyn cael caniatâd i ddefnyddio deunydd hawlfraint yn ffilm llinell amser y Canmlwyddiant.  Os ydym wedi defnyddio unrhyw ddeunyddiau heb ganiatâd yn ddamweiniol, a chredwch fod gennych chi hawliau yn y deunyddiau hynny, e-bostiwch archives@abertawe.ac.uk