Mae Dr Anitha Devadoss yn gweithio yn y Ganolfan NanoIechyd (Canolfan Peirianneg Systemau a Phrosesau) ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu technoleg synhwyro i ddatgelu biofarcwyr yn y gwaed ar gyfer datgelu canser yn gynnar. Mae'n Gymrawd Sêr Cymru II – un o grŵp o sêr y dyfodol ar gynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i ddenu ymgeiswyr o'r ansawdd uchaf i gynnal eu prosiectau ymchwil ym mhrifysgolion Cymru. Mae cymrodoriaeth Dr Devadoss hefyd yn rhan o'r cynllun Marie Sklodowska-Curie Actions (MSCA) COFUND.
Mae ymchwil Dr Devadoss yn canolbwyntio'n benodol ar fiofarciwr cyffredin ar gyfer canser o'r enw glwtathione, a ddatgelir drwy'r synwyryddion (ffoto)electrocemegol mae hi'n eu datblygu.
Mae gan yr ymchwil y potensial i fod yn chwyldroadol, fel yr esbonia: "Yn y bôn, rydym am leihau'r amser mae'n ei gymryd i adnabod canser ac ystod o gyflyrau eraill i funudau drwy roi’r dechnoleg synhwyro rydym yn ei datblygu ar waith ar ffurf prawf pigiad pin.
"Bydd y prawf gwaed syml hwn yn debyg i wneud diagnosis o ddiabetes – lle mae prawf pigiad pin yn dangos lefel siwgr y gwaed ar unwaith.
"Mae lefelau penodol o glwtathione mewn celloedd arferol, ond bydd lefelau uwch mewn celloedd canseraidd. Ar gyfnod mor gynnar yn y broses ddiagnostig, ni allwn adnabod pa fath o ganser ydyw eto, ond os oes gan rywun lefelau glwtathione anarferol o uchel, mae'n sicr yn rhywbeth y bydd angen sylw pellach arno. Mae lefelau glwtathione uwch hefyd yn gysylltiedig â chlefyd Alzheimer a chyflyrau eraill, felly mae'n rhywbeth y dylid rhoi gwybod amdano i feddyg teulu."
Y gobaith yw, o fewn cyn lleied â phum mlynedd, y gallai'r prawf pigiad pin fod ar gael mewn meddygfeydd. Meddai Dr Devadoss: "Ar hyn o bryd rydym yn ceisio addasu ein synwyryddion i gydweddu â thechnegau gweithgynhyrchu synwyryddion diwydiant, ac erbyn diwedd fy mhrosiect Sêr Cymru tair blynedd, rydym yn gobeithio y bydd prototeip yn gallu dangos pa mor effeithiol yw ein cynnyrch. Y newyddion da yw ein bod yn arbennig o dda yn Abertawe wrth weithio gyda diwydiant. Mae gennym nifer o bartneriaethau, a nhw yw'r llwybr gorau i'r farchnad." Mae Dr Devadoss yn gweithio'n agos gyda Zimmer & Peacock, datblygwyr a gwneuthurwyr synwyryddion electrocemegol, a chydag llawer o arweinwyr eraill yn y diwydiant yn y Ganolfan NanoIechyd.
Mae Dr Devadoss yn hyderus y bydd y synwyryddion y mae'n gweithio arnynt yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ddatgelu canser ac ystod o gyflyrau eraill yn gynnar yn y dyfodol: "Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn datblygu synwyryddion yn y gwaed, ond mae llawer o ymchwil i fiofarcwyr ar y gweill yn gyffredinol. Mae pobl yn chwilio am ecsosomau, er enghraifft, sy'n ganfyddadwy mewn poer a gwaed ac sy’n fiofarcwyr da ar gyfer canser hefyd. Mae'r maes hwn ar i fyny, felly rydym yn ffyddiog o dorri tir newydd."