Mae Ben Sampson yn aelod o dîm cynaliadwyedd y Brifysgol, ac yn benodol mae e’n gofalu am fioamrywiaeth ar gampws a safle Twyni Crymlyn sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar Gampws y Bae.
Sut dechreuoch chi’ch gyrfa ym maes cadwraeth?
Yn wreiddiol, astudiais i fioleg forol, wedyn ces i swydd wirfoddoli amser llawn yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Tywyn Niwbwrch ar Ynys Fôn.Gwnaeth hyn arwain at wirfoddoli ledled Prydain ac Iwerddon ar gyfer yr RSPB,
Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain ac eraill, gan fyw mewn lleoedd anhygoel, gweithio gyda phobl anhygoel a meithrin y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen.Wedyn, gwnaeth gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth a Rheoli Arfordirol ac Aberol gyflymu fy ngyrfa.
Ydy cadwraeth wedi eich tywys i leoedd diddorol?
Rydw i wedi bod yn lwcus iawn i fyw a gweithio mewn lleoedd trawiadol – mae cadwraeth ar ynysoedd yn agos iawn at fy nghalon ac rydw i wedi byw ar sawl ynys fach dros y blynyddoedd, gyda chyfnod o bedair blynedd ar Ynys Wair yn Sianel Bryste’n uchafbwynt penodol (ac nid yn unig oherwydd i mi gwrdd â’m gwraig yno!) ond heb os, fy hoff le yw Ynys Aride yn y Seychelles lle treuliais i ddwy flynedd.Mae’r ynys drofannol fach hon yn gartref i fwy na miliwn o adar y môr, sawl planhigyn ac anifail brodorol a’r dwysedd uchaf o fadfallod ar y ddaear.
Beth yw’r her fwyaf ar gyfer bioamrywiaeth ar hyn o bryd?
Mae gan newid yn yr hinsawdd ar ei ben ei hun y gallu i achosi difodiant ar raddfa fawr, ond pan fo cymaint o’r blaned wedi cael ei newid gan bobl, mae’r byd naturiol yn llawer llai gwydn wrth wynebu newid nag y byddai e’ fel arall.
Mae hyn yn creu effaith ar lefel leol ac yn fyd-eang, ac mae mannau sy’n bwysig i fywyd gwyllt yn lleol dan bwysau oherwydd gwaith datblygu, rhannu cynefinoedd, lledaeniad rhywogaethau ymledol a thywydd eithafol.Mae mynd i’r afael â’r heriau hyn yn golygu gweithio i warchod safleoedd pwysig a sicrhau y cânt eu rheoli’n dda, er enghraifft, drwy gysylltu’n well er mwyn galluogi anifeiliaid i symud trwy’r dirwedd, a chan reoli lledaeniad rhywogaethau ymledol.Mae angen i ni wella gwydnwch yr amgylchedd naturiol er mwyn iddo fod yn y cyflwr gorau posib er mwyn gwrthsefyll newidiadau anochel.
Sut mae bioamrywiaeth yn amrywio rhwng campysau Prifysgol Abertawe?
Mae Parc Singleton yn fosäig rhagorol o gynefinoedd, o laswelltir agored gyda choed aeddfed, prysgoed, coedtir, pyllau, gwelyau blodau ffurfiol ac adeiladau amrywiol o ran eu hoedran, sy’n arwain at fioamrywiaeth uchel sy’n rhoi bwyd a lloches i ystod eang o rywogaethau.Yn benodol, mae’r coed derw hen iawn yn gartref i ystod enfawr o blanhigion, anifeiliaid a ffyngau eraill.
Oherwydd ei fod wedi’i adeiladu’n ddiweddar, mae gan Gampws y Bae fioamrywiaeth llawer llai, er bod plannu coed a blodau gwyllt eisoes yn dod â bywyd gwyllt prin i’r campws.Mae tywod a morfa heli Twyni Crymlyn, sy’n cael eu rheoli fel gwarchodfa natur gan y Brifysgol, o bwys cenedlaethol oherwydd eu bioamrywiaeth ac maen nhw’n safle dynodedig o ddiddordeb gwyddonol arbennig.Mae’r ardal gyfan ar agor i ymwelwyr ac mae’n werth mynd am dro yno yn ystod amser cinio er mwyn cael ychydig o ecotherapi.